Ffrwydriad Cas-wis: Arestio dyn 19

  • Cyhoeddwyd
Cas-wis
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r heddlu'n parhau i fod ar y safle

Mae'r heddlu wedi arestio dyn 19 mlwydd oed ar amheuaeth o drosedd yn ymwneud â dyfais ffrwydrol, yn dilyn digwyddiad yng Nghas-wis ddydd Iau.

Mae Jordan Smith yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty am anaf i'w law sydd ddim yn fygythiad i'w fywyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Bu digwyddiad mewn cae ar yr eiddo. Rydym yn parhau i chwilio'r tir ac adeiladau gerllaw, ac mae offer codi ofn ar adar wedi cael ei gymryd o'r safle."

Ychwanegodd nad ydi'r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Cafodd Mr Smith ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys yn dilyn y ffrwydrad.

Fe wnaeth uned ddifa bomiau ymweld â'r safle ac fe gafodd y ffordd rhwng Cas-wis a Chryndal ei chau am gyfnod.