Achub tri o gwch modur
- Cyhoeddwyd
Mae dau blentyn a dyn wedi cael eu hachub o gwch modur wedi i'r injan stopio ger arfordir Conwy.
Cafodd Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi alwad am 11:30yb ddydd Sadwrn i ddweud bod y cwch mewn trafferthion ger Penmaenmawr.
Lansiwyd bad achub Conwy i gynorthwyo'r pum person ar y cwch, ac fe gludwyd dau fachgen a'u tad i'r lan.
Dywedodd gwylwyr y glannau bod y bechgyn yn oer ac roedd un wedi bod yn sâl, felly cafodd ambiwlans ei alw.
Yn y cyfamser, llwyddodd y bobl oedd yn dal ar y cwch i ail-danio'r injan ac fe gafodd y cwch ei hebrwng i harbwr Conwy gan y bad achub.