Casnewydd 2-0 Wycombe
- Cyhoeddwyd

Casnewydd 2-0 Wycombe
Fe fydd y fuddugoliaeth yma'n sicr o dawelu ofnau Justin Edinburgh wedi i'w dîm ddiodde' cyfnod o ganlyniadau siomedig.
Mae eu dyfodol yn Adran 2 yn sicrach o lawer, ac roedd angen diolch i Christian Jolley am sgorio'r gôl holl bwysig gyntaf.
Dyw'r ymosodwr, oedd yn brif sgoriwr i'r clwb ddau dymor yn ôl, heb sgorio ers misoedd lawer, ond fe gafodd y gyntaf wedi 68 munud.
Roedd y rhyddhad yn amlwg, ac fe arweiniodd at Chris Zebroski yn ychwanegu un arall pum munud yn ddiweddarach.
Gan ei bod mor dynn yn Adran 2 mae'r fuddugoliaeth yn codi Casnewydd i'r 13eg safle.