Wrecsam 3-0 Nuneaton
- Cyhoeddwyd

Wrecsam 3-0 Nuneaton
Roedd y fuddugoliaeth yn felys i Kevin Wilkin gan iddo adael Nuneaton i ddod yn rheolwr ar y Cae Ras ychydig wythnosau yn ôl.
Roedd hi'n gêm gystadleuol fel y byddai rhywun wedi disgwyl, gyda'r ddau dîm yn mwynhau cyfnodau da.
Ond ar y cyfan, Wrecsam gafodd mwyafrif y meddiant, a gyda hynny fe ddaeth cyfleoedd.
Er hynny roedd rhaid aros am 54 munud am y gôl gyntaf.
Fe darodd Mark Carrington ergyd o bell, ac er i'r golwg arbed y cynnig roedd Johnny Hunt wrth law i rwydo gyda'i droed chwith.
Wedi 70 munud fe ddaeth un arall. Daeth croesiad Neil Ashton o hyd i Andy Bishop ar gornel y cwrt chwech, ac fe darodd ei ergyd i gornel ucha'r rhwyd gyda'i droed dde.
Yn y funud olaf daeth Bradey Reid o hyd i Ashton yn y cwrt ac fe ychwanegodd un arall i wneud y fuddugoliaeth yn un swmpus yn y diwedd i Wrecsam.
Straeon perthnasol
- 8 Mawrth 2014
- 1 Mawrth 2014