Seintiau Newydd yn bencampwyr
- Cyhoeddwyd

Y Seintiau Newydd 1-1 Airbus UK Brychdyn
Mae'r Seintiau Newydd wedi cael eu coroni'n swyddogol yn Bencampwyr Uwchgynghrair Cymru am y trydydd tymor yn olynol.
Er bod buddugoliaeth y Seintiau yn erbyn Y Drenewydd ddeng niwrnod yn ôl wedi golygu eu bod yn bencampwyr yn barod i bob pwrpas, roedd posibilrwydd mathemategol y gallai Airbus eu dal.
Diffoddwyd y gobaith yna yn Neuadd y Parc ddydd Sadwrn.
Mike Wilde roddodd y tîm cartref ar y blaen wedi 33 munud, ac fe aeth talcen caled y tîm o Frychdyn yn galetach fyth.
Roedd pwynt yn ddigon, a dyna'r cyfna a gawson nhw diolch i gôl o'r smotyn gan Tom Field bedwar munud cyn y diwedd.
Ond am y trydydd tymor yn olynol mae'r Seintiau wedi sicrhau'r bencampwriaeth gyda tair gêm yn weddill.
Cafodd pedair gêm arall eu chwarae ddydd Sadwrn, a dyma'r canlyniadau:
Caerfyrddin 2-1 Rhyl;
Gap Cei Connah 2-0 Port Talbot;
Drenewydd 3-1 Bangor;
Prestatyn 4-0 Lido Afan.