Southampton 0-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Southampton 0-1 Caerdydd
Roedd capten a rheolwr Caerdydd wedi dweud bod y gêm hon yn un yr oedd rhaid ei hennill... ac fe wnaethon nhw.
Gyda Fulham yn curo hefyd roedd y tri phwynt yn fwy gwerthfawr fyth, ond mae'r canlyniad nawr yn rhoi pwysau ar Abertawe wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Chelsea ddydd Sul.
Nid fod hynny'n mynd i boeni Ole-Gunnar Solsjkær rhyw lawer.
Roedd Caerdydd yn gweithi'n galed o'r dechrau er mai'r tîm cartref oedd yn dangos y sgiliau gorau.
Bu'n rhaid i gefnogwyr yr Adar Gleision, ond yn ddigon eironig yn gwisgo crysau glas ddydd Sadwrn, aros am 64 munud am y gôl.
Yn dilyn cic rydd fe ddaeth y bêl at Juan Cala y tu allan i'r cwrt cosbi ac fe daniodd ei ergyd i'r rhwyd o 20 llath.
Fe ddilynodd 25 munud nerfus tu hwnt gyda Southampton yn taflu popeth at amddiffyn Caerdydd, lle'r oedd David Marshall ar ei orau rhwng y pyst.
Roedd y cefnogwyr a Solsjkær yn dawnsio mewn gorfoledd pan ddaeth y chwiban olaf.
Mae gobaith o hyd i Gaerdydd aros yn yr Uwchgynghrair, ond mae angen mwy o fuddugoliaethau rhwng nawr a diwedd y tymor.