Cross Keys a Ponty i'r ffeinal

  • Cyhoeddwyd

Bydd Cross Keys yn cwrdd â Phontypridd yn rownd derfynol Cwpan Swalec eleni.

Fe ddaeth buddugoliaeth Cross Keys er gwaethaf diweddglo dramatig. Pan sgoriodd Jones gais i'r tîm cartref wedi 79 munud i fynd 29-20 ar y blaen roedd hi'n ymddangos fod popeth ar ben.

Ond o fewn munud fe sgoriodd Garland gais i Lanymddyfri, a'i drosi, i gau'r bwlch i ddau bwynt yn unig.

Ond methodd Llanymddyfri a chael amser i sgorio eto, a Cross Keys sy'n mynd ymlaen i'r ffeinal gan ennill 0 29-27.

Stori wahanol oedd y rownd gynderfynol arall gyda Phontypridd yn feistri corn ar yr ymwelwyr.

Enillodd Ponty o 32-3 yn erbyn Aberafan.