BBC Cymru Fyw

Siom i'r Dreigiau ond Scarlets yn ennill

Published
Treviso 45-27 Dreigiau
Mae cyfres o ganlyniadau siomedig yn ddiweddar i'r Dreigiau yn parhau wrth iddyn nhw golli yn Yr Eidal ddydd Sadwrn.
Er hynny doedd y canlyniad ddim yn syndod - dyw'r Dreigiau heb guro Treviso ar eu tomen eu hunain ers 2007, ac heb ennill gêm o gwbl ers curo Glasgow o 24-23 ym mis Chwefror.
Roedd yr ymwelwyr ar ei hôl hi yn fuan, ac roedd Treviso ar y blaen o 19-6 ar yr egwyl gyda dau gais gan Ludo Nitoglio a Luke McLean.
Troed Matt Berquist oedd yn gyfrifol am weddill y pwyntiau gyda'i droed, a dwy gôl gosb Jason Tovey oedd unig ateb y Dreigiau.
Wedi'r egwyl daeth dau gais arall i Treviso wrth i Campagnaro ac yna Vosawai groesi, er bod y Dreigiau wedi sgorio dau gais eu hunain yn yr un cyfnod gan Matthew Screech a Ross Wardle.
Ond daeth pumed cais i Treviso gan Matteo Muccignat i ychwanegu at 20 pwynt o droed Berquist i goroni buddugoliaeth swmpus i'r Eidalwyr, er i Craig Hill sgorio cais arall hwyr i'r Dreigiau.

Scarlets 27-20 Zebre

Daeth buddugoliaeth i'r Scarlets yn ail gymal y frwydr rhwng Cymru a'r Eidal ddydd Sadwrn, ond doedd hi ddim yn un gyffyrddus.
Roedd y Scarlets ar ei hôl hi ar yr egwyl o 9-13 wedi dau gais yn yr hanner cyntaf gan Samuele Vunisa a Giulio Toniolatti.
Ond wedi'r egwyl daeth dau gais cynnar i'r tîm cartref gan Liam Williams a'r eilydd Ken Owens i sicrhau mantais.
Roedd hi'n noson gymysg i Rhys Priestland. Llwyddodd maswr Cymru i sgorio 17 o bwyntiau gyda'i droed, ond methodd gydag ambell gyfle cymharol hawdd hefyd, ac ef oedd yn euog o fethu tacl arweiniodd at gais arall i Zebre gan yr Archentwr Gonzalo Garcia.
Er mai dim ond un trosgais oedd y fantais, fe ddaliodd y Scarlets eu gafael i ennill y gêm a gwneud eu lle yn Ewrop y tymor nesaf yn llawer sicrach.