Nigel Evans: A ddylid erlyn achosion hanesyddol?

  • Cyhoeddwyd
Nigel EvansFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Nigel Evans ei fod wedi ystyried lladd ei hun

Mae'r Aelod Seneddol Nigel Evans, gafwyd yn ddieuog o dreisio ac ymosod yn rhywiol, wedi galw am ymchwiliad a ddylai Gwasanaeth Erlyn y Goron gael yr hawl i ymchwilio i achosion hanesyddol o gam-drin rhywiol.

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod y penderfyniad i erlyn Mr Evans yn un cywir.

Ar ôl penderfyniad y rheithgor yn Llys y Goron Preston dywedodd Mr Evans, cyn lefarydd Tŷ'r Cyffredin ac yn wreiddiol o Abertawe, y dylai Gwasanaeth Erlyn y Goron dalu ei fil cyfreithiol o £130,000.

Ddydd Llun ar raglen Daybreak ar ITV dywedodd ei fod wedi ystyried lladd ei hun yn ystod y cyfnodau mwyaf tywyll.

Mae wedi galw ar aelodau Tŷ'r Cyffredin i edrych ar gyfundrefn gyfreithiol yr Unol Daleithiau lle mae yna gyfyngu ar y gallu i erlyn achosion sy'n dyddio'n ôl degawdau.

Yn y cyfamser, mae nifer o Aelodau Seneddol, gan gynnwys David Davies, cyn lefarydd y Ceidwadwyr ar Faterion Cartref, wedi gofyn am adolygiad brys o'r drefn bresennol, gan ddweud fod "risg o anghyfiawnder mawr".

Dywedodd Mr Evans wrth bapur newydd y Mail on Sunday bod yr achos wedi llyncu ei holl gynilion.

Roedd yr achos, meddai, yn ymgais at "ddienyddiad cyhoeddus iawn" a dywedodd fod y rheolau oedd yn gorchymyn peidio ag enwi dioddefwyr troseddau rhyw yn unochrog.

'Pob ceiniog wedi mynd'

Dywedodd ei fod wedi ystyried lladd ei hun yn y "munudau tywyllaf" ers i'r honiadau yn ei erbyn gael eu gwneud.

Ychwanegodd AS Ribble Valley bod y bil cyfreithiol o £130,000 wedi llyncu ei gynilion, gan ddweud: "Mae pob ceiniog wedi mynd."

Mae hefyd wedi colli ei gyflog ychwanegol o £30,000 y flwyddyn fel dirprwy lefarydd, gan iddo ildio'r swydd pan gafodd ei gyhuddo.

"Dylai pobl sy'n cael eu tynnu drwy'r llysoedd heb fai arnyn nhw ac yna yn cael eu profi'n ddieuog gael eu costau cyfreithiol i gyd yn ôl o gyllideb y CPS.

"Efallai y byddai hynny'n gwneud iddyn nhw ganolbwyntio ar ystyried a yw achos yn werth ei ddilyn neu beidio."

Gall diffynyddion sy'n ddieuog yng Nghymru a Lloegr wneud cais am gael talu eu costau cyfreithiol o gronfa ganolog - o'r pwrs cyhoeddus yn hytrach na'r CPS - hyd at yr uchafswm o gymorth cyfreithiol a fyddai wedi cael ei roi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mr Evans yn gadael Llys y Goron Preston yr wythnos ddiwethaf

'Penderfyniad cywir'

Amddiffynnodd Cyfarwyddwr y CPS Alison Saunders y penderfyniad i erlyn Mr Evans, gan ddweud eu bod wedi "defnyddio'r un meini prawf pwy bynnag fyddai'r troseddwr neu'r dioddefwr".

"Fe wnaethon ni ystyried y dystiolaeth a phenderfynu bod gobaith realistig o gael euogfarn," meddai.

Dywedodd Heddlu Sir Gaerhirfryn fod eu hymdriniaeth o'r achos yn "deg, proffesiynol a chymesur".

Yn ôl y Ditectif Uwch-Arolygydd Ian Critchley, roedd yr heddlu wedi ymchwilio i achos Mr Evans yn yr un modd ag y byddai gydag unrhyw un arall.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol