Sylwadau sarhaus: Arestio merch
- Cyhoeddwyd

Mae merch 17 oed wedi cael ei harestio fel rhan o'r ymchwiliad i sylwadau ar wefan gymdeithasol am farwolaeth bachgen 15 oed yn Abertawe.
Cafodd y ferch ei harestio ar amheuaeth o dorri adran 127 o'r Ddeddf Gyfathrebu sy'n gwahardd gyrru negeseuon sarhaus drwy rwydwaith electroneg.
Cafodd y ferch ei holi a'i rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Nid yw'r heddlu yn chwilio am unrhyw berson arall mewn perthynas â'r mater.
Roedden nhw'n ymchwilio i sylwadau sarhaus iawn a gafodd eu gwneud ar wefan Facebook yn dilyn canfod corff y bachgen ddydd Iau.
Cafodd y bachgen ei enwi'n lleol fel James Lock ac roedd yn ddisgybl yn Ysgol Olchfa yn y ddinas.
Yn ôl yr heddlu dyw'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.
Mae prifathro Ysgol yr Olchfa, Hugh Davies, wedi talu teyrnged i'r bachgen gan ddweud,"ei bod hi'n amhosib disgrifio'r galar yr ydyn ni'n teimlo dros ei deulu ac mae ein meddyliau gyda nhw ar hyn o bryd."
Cafodd yr ysgol ei chau'n gynnar brynhawn Gwener fel arwydd o barch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2014