Achub dau gafodd eu dal gan y llanw
- Cyhoeddwyd
Mae dau fachgen wedi cael ei hachub wedi iddyn nhw gael eu dal yn llanw ger Llanilltyd Fawr ym Mro Morgannwg.
Roedd y ddau, 13 a 14 oed, yn cerdded ar y traeth pan aethon nhw i drafferthion.
Fe gafodd Gwylwyr y Glannau yn Abertawe alwad 999, ac fe wnaethon nhw barhau i siarad gyda'r ddau tra bod bad achub o Borthcawl yn mynd i gynnig cymorth iddyn nhw.
Cafodd y ddau eu cludo gan y bad achub i ddociau'r Barri lle'r oedd ambiwlans yn disgwyl. Cafodd y ddau brofion am effeithiau'r oerni.
Dywedodd David Jones o Wylwyr y Glannau Abertawe:
"Dylai pawb wirio'r tywydd a'r llanw cyn mynd am dro ar draethau fel bod modd paratoi'n gywir.
"Ar y môr, mae newidiadau'n gallu digwydd yn gyflym yn enwedig os yw'r gwynt a'r llanw yn erbyn ei gilydd.
"Os fyddwch chi'n mynd i drafferthion, ffoniwch 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau."