Wheelabrator i adeiladu llosgydd ar gyfer 'sbwriel y gogledd
- Cyhoeddwyd

Cwmni Wheelabrator sydd wedi ei ddewis gan bartneriaeth o gynghorau'r gogledd i adeiladu llosgydd 'sbwriel gwerth £600 i £800m ar Lannau Dyfrdwy.
Bydd y llosgydd yn delio gydag o gwmpas 150,000 tunnell o wastraff y flwyddyn, fydd yn dod i Lannau Dyfrdwy o ardaloedd ledled y gogledd.
Dywed Cyngor Y Fflint fod y pum awdurdod, sy'n rhan o Brosiect Trin Gwastraff Gweddillion Gogledd Cymru (NWRWTP), wedi cymeradwyo'r dewis.
Mae'r cynghorau yn ceisio lleihau'r defnydd o safleoedd tirlenwi.
Mae'r BBC yn deall mai Wheelabrator oedd yr unig gwmni yn y broses dendro wedi i Sita UK dynnu allan o'r broses y llynedd.
Mae disgwyl bydd y llosgydd hefyd yn gallu cynhyrchu trydan.
Proses trwyadl
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Y Fflint: "Rydym yn fodlon bod Wheelabrator wedi datblygu cynnig sydd o fudd amgylcheddol ac yn cynnig gwerth am arian.
"Wrth apwyntio Wheelabrator fe fydd y bartneriaeth yn gallu gweithio tuag at gwblhau'r manylion, gan edrych i roi'r cytundeb iddyn nhw yn yr haf."
"Bydd hyn yn golygu gall y cwmni ddechrau'r broses bwysig o ymgynghori gyda thrigolion lleol, gyda'r bwriad i gyflwyno cais cynllunio yn ddiweddarach eleni."
Mae Wheelabrator yn gobeithio codi'r llosgydd ar dir yn agos at Ffatri Bapur Shotton ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Meddai Gary Aguinaga, Is-lywydd gyda chwmni Wheelabrator: "Mae rhai pobl wedi mynegi pryder am rai elfennau o'r prosiect, a bydd yn rhaid i ni weithio er mwyn ennill eu hymddiriedolaeth.
"Gallwn wneud hyn trwy ddangos, sut mae'r dechnoleg yn gweithio ac esbonio pa mor drylwyr byddwn yn cael ein rheoleiddio."
"Iechyd y trigolion, staff a'r amgylchedd fydd ein blaenoriaeth."
Taro targedau
Mae'r llosgydd yn cael ei adeiladu er mwyn helpu awdurdodau'r gogledd cyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru.
Erbyn 2025, mae disgwyl i awdurdodau lleol ailgylchu 70% o wastraff tŷ, gyda dim ond 5% o'r gwastraff sy'n weddill yn mynd i safleoedd tirlenwi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2013