Cwest i farwolaeth sydyn bachgen 15 oed o Abertawe i agor

  • Cyhoeddwyd
Ysgol yr Olchfa
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd yr ysgol ei chau'n gynnar brynhawn Gwener fel arwydd o barch.

Bydd cwest i farwolaeth sydyn bachgen 15 oed o Abertawe yn agor ddydd Mawrth.

Cafwyd hyd i gorff James Lock mewn coed ger Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan, sy'n eiddo i Brifysgol Abertawe, ddydd Gwener.

Roedd James Lock o ardal Dyfnant yn ddisgybl yn Ysgol yr Olchfa.

Mae merch 17 oed wedi cael ei harestio fel rhan o'r ymchwiliad i sylwadau ar wefan gymdeithasol am y farwolaeth.

Cafodd hi ei harestio ar amheuaeth o dorri adran 127 Deddf Gyfathrebu sy'n gwahardd gyrru negeseuon sarhaus drwy rwydwaith electroneg.

Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Ddim yn amheus

Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â'r mater.

Roedden nhw'n ymchwilio i sylwadau sarhaus iawn ar wefan Facebook yn dilyn canfod corff y bachgen ddydd Iau.

Yn ôl yr heddlu dyw'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.

Mae prifathro Ysgol yr Olchfa, Hugh Davies, wedi rhoi teyrnged i'r bachgen, gan ddweud,"ei bod hi'n amhosib disgrifio'r galar yr ydyn ni'n teimlo dros ei deulu ac mae ein meddyliau gyda nhw ar hyn o bryd."

Cafodd yr ysgol ei chau'n gynnar brynhawn Gwener fel arwydd o barch.