Ffrae dros y defnydd o'r Gymraeg mewn siop yn Nhresaith
- Cyhoeddwyd
Mae sylwadau ymwelydd am y Gymraeg mewn siop yn Nhresaith, Ceredigion, ddydd Sul wedi ennyn beirniadaeth ar wefannau cymdeithasol.
Yn ôl Heledd ap Gwynfor, rheolwraig Siop Tresaith, roedd dau aelod o staff y siop yn siarad yn Gymraeg pan ddywedodd yr ymwelydd yn Saesneg ''nad oedd wedi dod i'r siop i glywed y staff yn siarad Cymraeg''.
Gofynnodd yr ymwelydd wedyn pwy oedd wedi eu gorfodi i siarad yr iaith gyda'i gilydd.
Meddai Heledd ap Gwynfor wrth raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru ddydd Llun: '''Gobsmacked' yw'r gair Saesneg amdano fe. Doeddwn i ddim cweit yn gallu credu ei fod wedi dweud y fath beth, ac mae siom yn cicio mewn hefyd - fod yr agwedd hon yn para i fod.
''Mae rhaid i fi bwysleisio fod dros 90% o'r bobl sy'n dod drwy ein drysau ni yn falch o'r hyn maen nhw'n ei weld ac yn ei glywed yn y siop.
''Mae nifer fawr o'n cwsmeriaid ni yn dod o Loegr ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn synnu pan maen nhw'n clywed ni'n siarad Cymraeg ymysg ein gilydd, ond yn ymddiddori ac yn holi cwestiynnau ynghylch yr iaith. Dyna ymateb y rhan fwyaf llethol sy'n dod i'r siop.
''Mae 'da chi un neu ddau sy'n dweud pethe fel 'nath y gŵr hwn ddoe,'' ychwanegodd.
Mewn ymateb i'r negeseuon o gefnogaeth ddaeth i weithwyr y siop ar wefannau cymdeithasol, dywedodd Heledd ap Gwynfor: ''Dwi wedi cael fy synnu ac wedi fy nghalonogi yn enfawr a bod yn onest. Roedd fy ffôn i yn danbaid, ac fe wnaeth e bara drwy'r nos,'' meddai.