Tân mewn safle ailgylchu yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd

Mae tân ar safle ailgylchu ar Barc Diwydiannol Wrecsam wedi ei ddiffodd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yno toc cyn hanner dydd ac anfonwyd diffoddwyr o Wrecsam, Bwcle, Glannau Dyfrdwy a Johnstown i ddelio gyda'r tân.

Digwyddodd y tân ar safle FCC Environment, sydd yn gweithio mewn partneriaeth â Cyngor Sir Bwrdeistref Wrecsam ar nifer o elfennau ailgylchu.

Mae'n debyg i'r tân ddechrau mewn gwregys ar beiriant cludo mewn rhan o'r safle sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd.

Bydd ymchwiliad yn digwydd i gadarnhau hyn.

Dim anafiadau

Meddai Paul Stokes, Pennaeth Iechyd, Amgylchedd ac Ansawdd FCC Environment: "Mae'r tân wedi cael ei ddiffodd a does yna ddim anafiadau.

"Rydym wedi rhoi gwybod i Asiantaeth yr Amgylchedd am y digwyddiad.

"Ond mae'n debyg nad oes yna unrhyw faterion amgylcheddol wedi codi oherwydd doedd yna ddim gwastraff yn y peiriant ar y pryd."

Dywedodd Mr Stokes y bydd y cwmni yn cynnal ei hymchwiliad ei hun ac yn gweithredu unrhyw fesurau pellach er mwyn sicrhau nad oes digwyddiad tebyg yn digwydd yno yn y dyfodol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol