Chwiliio am leidr ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion wedi i rywun geisio dwyn o dŷ ym Mangor.
Ddydd Iau, Ebrill 10, daeth preswylydd tŷ ar Ffordd Tegai, Bangor, ar draws dyn yn ei gartref.
Rhedodd y troseddwr i ffwrdd trwy ddrws cefn y tŷ.
Roedd y preswylydd wedi cynhyrfu ond ni chafodd niwed.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Catherine Walker: "Mae'r troseddwr rhwng 20 a 25oed, yn denau a thua 5 troedfedd 9 modfedd o daldra.
"Mae ganddo wallt du, yn fyr ar yr ochr, locsyn bwch gafr a sbotiau ar ei fochau.
"Roedd yn gwisgo trowsus du yn debyg i filwr, a thop hwdi ..."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111, gan ddyfynnu RC40552540.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol