Kurt Cobain a Chymru

  • Cyhoeddwyd
Kurt Cobain
Disgrifiad o’r llun,
Kurt Cobain, a fu farw ym mis Ebrill 1994

Ugain mlynedd yn ôl i'r mis hwn, bu farw Kurt Cobain, un o gerddorion mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth. Yn brif leisydd band eiconig Nirvana, roedd ei fywyd yn lliwgar a'i farwolaeth yn Seattle ar y 5ed o Ebrill 1994, yn ôl llawer, yn un amheus.

Ynghyd â bandiau fel Pearl Jam a Soundgarden, roedd Nirvana yn rhan o'r don o gerddoriaeth grunge a ddechreuodd yn Seattle yng nghanol yr 1980au.

Mi gawson nhw ddylanwad anferthol ar ddiwylliant poblogaidd ar draws y byd gan gynnwys y sin roc yng Nghymru.

Agwedd grunge

Yn nodweddiadol o gerddoriaeth grunge, roedd Nirvana yn defnyddio lefel uchel o effeithiau sain arbennig, gan gynnwys 'Fuzz' a 'feedback' a oedd yn cyfuno metal trwm a pync. Yn aml roedd testun y caneuon yn dywyll gyda chyfeiriadau cyson at farwolaeth, dieithrio cymdeithasol a difaterwch.

Mae'r cyflwynydd Radio 1, Huw Stephens, yn credu bod delwedd y mudiad grunge yn hollbwysig:

"Be 'nath y bandiau yma oedd dangos bod dim rhaid gwisgo trowsus lledr a chael hairspray yn y gwallt i rocio. Roedden nhw'n gwisgo yn normal, a geiriau am bethau go iawn, yn lle bod yn 'glam' a dros ben llestri. Roedden nhw'n canu am bethau trist a real, pethau roedd y gwrandawyr o amgylch y byd yn deall i'r dim."

Dylanwad Cobain

Disgrifiad o’r llun,
Kurt Cobain

Mae'r cyflwynydd a cherddor Dyl Mei yn cytuno: "Fel pync roc yn yr 70au, profodd grunge unwaith eto, ei bod hi'n bosib llwyddo heb fod y cerddor, canwr neu'r band gora' yn gerddorol, a bod agwedd bron mor bwysig â'r gerddoriaeth.

"Fyswn i'n dweud y bod Nirvana yn uchel iawn ar y rhestr o'r grwpiau mwyaf dylanwadol erioed, yn agos iawn i'r Sex Pistols a'r Velvet Undergroud. Yn sicr fysa sin roc y byd y dyddiau yma ddim yr un peth oni bai bod Cobain a Nirvana wedi arwain y sin grunge.

"Fel hefo popeth, roedd yr 80au wedi troi yn fwystfil o ddegawd. Roedd yn adeg pan roedd ymddangos yn fawr ac yn 'glam' yn ofnadwy o bwysig; dwi'n sôn yn bennaf am grwpiau megis Def leppard a Motley Crue.

"Be nath Nirvana oedd dangos i bobol ifanc bod hi'n iawn i fod yn chi'ch hun, a bod hi'n iawn i beidio ffitio mewn, boed y gerddorol, neu ym mywyd bob dydd."

"Naturiol a Greddfol"

Roedd Owen Powell yn aelod o Catatonia, un o fandiau mwyaf llwyddiannus Cymru yn y 90au. Cafodd talentau Cobain gryn effaith ar Owen hefyd: "Roedd Kurt Cobain yn gerddor perffaith mewn ffordd. Fy hoff fath o gerddor. Naturiol a greddfol.

"Mae chwedl Cobain efallai wedi ein dallu ni i sawl ffaith syml amdano. Roedd ganddo lais anhygoel. Nid y math o lais roc traddodiadol ond rhywbeth oedd yn chwistrellu'n syth i'r galon.

"Roedd e'n ysgrifennu melodïau yn well na neb arall ar y pryd. Am fand roc, meddyliwch pa mor afaelgar yw "Come As You Are." Meddyliwch am ei benderfyniad pwysig yn Smells Like Teen Spirit i hepgor y solo traddodiadol a chwarae melodi'r llais yn lle. Mae e'n herio ni. Mae'n tynnu'n sylw ni at y ffaith bod y melodi mor gryf bod e werth clywed eto. Ac mae'n gwneud y cyfan i edrych yn hawdd, fel petai e'n ddiogi o ryw fath ar ei ran e."

Kurt yng Nghymru

Disgrifiad o’r llun,
Clwb adnabyddus Casnewydd, T.J's

Ar ddechrau'r 90au roedd gan glwb T.J's yng Nghasnewydd enw fel man da am gerddoriaeth a'r gallu i ddenu enwau mawr i'r ddinas yn gyson.

Ar Ragfyr y 10fed, 1991, perfformiodd band Courtney Love, 'Hole', yn T.J's. Ond mae'n noson chwedlonol yng Nghymru yn bennaf oherwydd ymddangosiad Kurt Cobain.

Y noson honno, cyrhaeddodd y canwr Casnewydd mewn car wedi ei logi. Mae rhai yn dweud mai mewn Skoda y daeth o yno tra bod eraill yn mynnu mai Lada oedd y cerbyd (ond mae'r rhan fwyaf yn cytuno bod y car wedi torri i lawr).

Mae llawer yn dal i gredu mai yng nghlwb T.J's y dechreuodd y rhamant rhwng Kurt Cobain a Courtney Love.

Cobains Cymreig?

A gafodd Nirvana ddylanwad ar fandiau Cymru? Mae Huw Stephens yn credu mai band dyfodd i fyny nepell o glwb TJ's yn y Coed Duon gafodd eu dylanwadu fwyaf gan Nirvana:

"Dwi'n meddwl falle mai gyda'r Manic Street Preachers mai'r tebygrwydd mwyaf gyda Nirvana.

"Yn Kurt Cobain a Richey Edwards mae gennych chi ddau eicon, dau sgwennwyr geiriau amrwd a gonest iawn. Roedd llwyddiant a phoblogrwydd Nirvana yn dangos i fandiau fod modd bod yn onest iawn iawn a byddai pobl yn eich croesawu i'w calonnau."

A beth am ein bandiau sy'n canu yn y Gymraeg? Meddai Dyl Mei: "Yn bendant, oedd Nirvana yn ddylanwad ar grwpiau Cymraeg, bosib bod y dylanwad yna wedi cymryd yn hirach i ymddangos gan fod be sy'n cael i alw'n cŵl Cymru yn ei dwf yn 1994.

Disgrifiad o’r llun,
Owen Powell (ar y chwith) gyda Catatonia

"Ond ers hynna, mae'n bosib clywed ei ddylanwad ar grwpiau fel Gogz, Gwacamoli, Frizbee a hyd yn oed Pep le pew, er grŵp hip hop oeddem ni. Roedd Nirvana yn ddylanwad enfawr ar sŵn y grŵp, ddim o ran cerddoriaeth, ond o ran agwedd ffwrdd â hi, a neud yn union be oedden ni isio, heb boeni gormod am ymateb cymdeithas!

"Ar y foment, mae'r tri grŵp; Blaidd, Castro, a Y Ffug yn swnio fel eu bod dan ddylanwad Nirvana, yn bendant o ran agwedd a cherddoriaeth. Mae'r Ffug yn fand ifanc o ardal Crymych sydd 'di codi ambell wrychyn yn ddiweddar hefo rhai o'u geiriau, ond fel Nirvana, mae'r caneuon yn rhai bachog ac eithaf ysgafn, a dyna dwi'n meddwl oedd tric mwyaf Kurt, sef ymddangos yn drwm ac yn dywyll, ond, os gwrandewch ar y caneuon, pop da 'di nhw yn y bôn."

Efallai nad oedd Nirvana a Cobain wedi cael dylanwad uniongyrchol ar gerddoriaeth Catatonia, ond mae 'na'n sicr ddylanwad, yn ôl Owen Powell: "O ran dylanwad personol Cobain arna i... wel, dw i'n dal i gredu mewn rock and roll. Dal yn ymateb yn reddfol i gerddoriaeth ac yn dal i chwilio am felodi ac ysbrydoliaeth.

"Dw i ddim yn gwybod am ddylanwad Nirvana yn uniongyrchol ar fandiau heddiw. Does neb yn swnio cystal â nhw. Ond mae ei arddull quiet verse, loud chorus wedi dod yn rhan hanfodol o gerddoriaeth roc."