Yn 'hapus' gyda'i MBE
- Cyhoeddwyd

Mae Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr yr Urdd, wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am dderbyn ei hanrhydedd MBE.
Ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Mawrth, dywedodd:
"Os ydych chi'n edrych ar y ffordd mae'r Urdd wedi trawsnewid dros y ddegawd ddiwethaf, bron wedi dyblu mewn trosiant, 90 yn fwy o staff, yna 'dw i'n hapus iawn bod fy rhan i, personol i, yn y gwaith yna wedi cael ei gydnabod yn allanol."
Gofynnodd y BBC a oedd Ms Jones yn cydnabod bod rhwygiadau wedi bod a bod posibiliad y byddai adlais o hynny yn cael ei weld ar faes Eisteddfod yr Urdd yn y Bala eleni.
"'Dw i'n derbyn bod yna amrywiaeth o farn am y pethau yma. Ond ar ddiwedd y dydd, fy mhenderfyniad personol i oedd i'w dderbyn e, a dwi'n hapus iawn gyda'r penderfyniad."
Mae sawl un wedi bod yn poeni y gallai penderfyniad prif weithredwr yr Urdd i dderbyn yr MBE achosi rhwyg o fewn y mudiad.
Cred Cyril Hughes, cyn ddeilydd y swydd, yw mai "hanfod unrhyw un sydd yn arwain mudiad gwirfoddol yw gallu cydweithio yn hapus gyda gweithwyr gwirfoddol ar hyd a lled Cymru ac mae'n bwysig iawn bod dim byd yn digwydd i amharu ar y berthynas honno".
Dywedodd bod y mudiad yn ddibynnol ar ewyllys da pobl, ac na ddylai "pobl sydd mewn swyddi da, cyflogau da fod yn cael anrhydeddu ar ben hynny hefyd".
Pan ofynwyd i Efa Gruffudd Jones ar y Post Cyntaf a oedd yn derbyn ei bod wedi cael cynnig yr anrhydedd ar ran mudiad yr Urdd yn gyffredinol, roedd yn mynnu mai penderfyniad personol ydoedd.
"Fel y dywedais i, 'dw i wedi bod yn hapus i dderbyn yr anrhydedd yma yn bersonol am fy ngwaith i."
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn cefnogi ei phenderfyniad i dderbyn yr MBE.
Dywedodd wrth Newyddion 9: "Dwi'n credu bod e'n bwysig dros ben bod pobl yn cael eu hanrhydeddu, er mwyn sicrhau bod pobl yn gweld y gwaith ma nhw'n neud. Gai longyfarch hi unwaith eto ar yr anrhydedd mae hi wedi cael...."
"Anrhydedd ar ddiwedd y dydd iddi hi yw hwn, a hefyd i'r Urdd fel corff yn fy marn i. Dyle unrhyw syniadau gwleidyddol ddim fod yn rhan ohono fe."
"(Dwi'n) cefnogi hi gant y cant ynglŷn â'r ffaith ei bod hi wedi derbyn yr anrhydedd hyn. Beth mae'n wneud yw anrhydeddu person sydd wedi ymroi shwd gymaint i fywyd Cymru."
Straeon perthnasol
- 21 Ionawr 2014
- 30 Rhagfyr 2013