Mwy o draethau Cymru'n cyrraedd y safon ar gyfer ymdrochi

  • Cyhoeddwyd
Bae RhosiliFfynhonnell y llun, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Bae Rhosili ar Benrhyn Gwyr yn un o'r traethau oedd â chyflwr dŵr arbennig o dda.

Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 109 allan o 152 (71.7%) o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr - 11 yn fwy na'r flwyddyn flaenorol.

Roedd 'na ostyngiad yn y nifer oedd wedi methu cyrraedd y safonau elfennol o bum traeth i bedwar - sef traeth y de yn Aberaeron, traeth Llanina yng Ngheredigion, traeth Aberdyfi yng Ngwynedd a Bae Broughton yn Abertawe.

Fe gafodd y dŵr ei brofi yn ystod Haf 2013 ac mae'n debyg bod y cyfnod sych a gawsom ni yn ystod yr haf wedi helpu i wella'r safon.

Er y newyddion da, roedd y ffigwr o 71.7% ychydig yn llai na'r ffigwr Prydeinig o 73% ac, mewn rhai rhannau o Brydain, doedd yr un traeth wedi methu'r safonau isaf ar gyfer ymdrochi.

Mae'r pump o draethau oedd wedi methu cyrraedd y safonau elfennol yn 2012 wedi llwyddo eleni - traeth Cricieth yng Ngwynedd a thraeth Pen Morfa, Llandudno.

Mae'r gymdeithas yn dweud bod yr arolwg yn newyddion da yn sgil y llygredd a achoswyd gan gyfres o hafau gwlyb y blynyddoedd blaenorol.

Mae'n debyg fod haf gwlyb yn golygu bod mwy o lygredd yn rhedeg fewn i'r môr o ardaloedd trefol a gwledig ac o garthffosydd wedi'u gorlwytho.

Dywedodd Rheolwr Cymru, Gill Bell: "Yr her fwyaf rwan yw cynnal y safonau yma, waeth beth fo'r tywydd."

Fe rybuddiodd y gymdeithas y bydd yn rhaid i ddŵr ymdrochi gyrraedd safonau isafswm "digonol" newydd yr Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd 2015, fydd ddwywaith mor llym â'r gofynion presennol.

Fe fydd traethau sydd ddim yn cyrraedd y safon newydd erbyn diwedd 2015 yn gorfod dangos arwyddion yn rhybuddio yn erbyn ymdrochi yn 2016, yn ôl y gymdeithas.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol