Pontio: Prif Weinidog yn ymweld
- Cyhoeddwyd

Bum mis cyn bod disgwyl i Ganolfan Pontio agor ym Mangor, mae Prif Weinidog Cymru wedi bod yn ymweld â'r safle.
Cafodd Carwyn Jones AC ei hebrwng o gwmaps y safle ddydd Mawrth gan Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes.
Mae disgwyl i'r Ganolfan Gelfyddydau ac Arloesi gwerth £46 miliwn agor ei drysau ym mis Medi 2014.
Mae'r fenter wedi ei chefnogi gan gyllid Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.
Cafodd y prif weinidog gyfle i weld y broses o adeiladu theatr Pontio, a gafodd ei henwi yn swyddogol yn Theatr Bryn Terfel fis Hydref y llynedd i anrhydeddu'r canwr opera byd-enwog gafodd ei eni yng Ngwynedd.
Gwelodd hefyd y gwaith sy'n mynd rhagddo ar y theatr stiwdio, y sinema, y ganolfan ddylunio ac arloesi, Undeb y Myfyrwyr, darlithfeydd, mannau dysgu cymdeithasol, y bwyty, y bar, a'r caffi.
'Adfywio a thrawsnewid'
Wedi'r ymweliad, dywedodd y prif weinidog: "Bydd Pontio yn werthfawr iawn i Fangor a'r cylch, a hefyd i'r gogledd i gyd.
"Bydd lleoliad y ganolfan yng nghanol y ddinas yn cyfrannu at adfywio a thrawsnewid yr ardal.
"Mae'r datblygiad hwn hefyd yn dangos effaith cyllid Ewropeaidd ar ein cymunedau yng Nghymru."
Meddai Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes: "Gyda phum mis yn unig i fynd nes y bydd y Ganolfan yn agor, mae gweithgaredd ar y safle ac yn y gymuned wrthi'n prysuro ar gyfer agoriad ein sioe gyntaf, sef addasiad ar gyfer y llwyfan o nofel T. Rowland Hughes Chwalfa, gan Theatr Genedlaethol Cymru.
"Bydd Pontio yn ganolbwynt ar gyfer y gymuned leol a'r Brifysgol fel ei gilydd - yn lle i gyfarfod, bwyta, dysgu, cael adloniant a darganfod.
"Bydd yn lle unigryw i'r celfyddydau a'r gwyddorau gyfarfod. Mae Pontio yn mynd i weddnewid canol y ddinas, a bydd yn hwb gwirioneddol i swyddi lleol ac i'r economi leol."
Straeon perthnasol
- 2 Ebrill 2014
- 29 Ionawr 2014
- 11 Tachwedd 2013
- 11 Hydref 2013
- 12 Mehefin 2013
- 11 Ionawr 2013