Chwarter canrif ers trychineb Hillsborough
- Cyhoeddwyd

Mae chwarter canrif wedi mynd heibio ers i 96 o gefnogwyr clwb pêl-droed Lerpwl gael eu gwasgu i farwolaeth ar deras Leppings Lane yn stadiwm Hillsborough.
Bob blwyddyn mae gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal yng nghartef y cochion yn Anfield i gofio'r rhai fu farw.
Mi gafodd gêm rownd gyn derfynol cwpan Lloegr rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ei chanslo wedi chwe munud wedi iddi ddod i'r amlwg bod trychineb ar y gweill.
Dros y penwythnos mi gychwynodd pob gêm bêl-droed yng Nghynghreiriau Lloegr saith munud yn hwyr er parch i'r meirw.
Brynhawn dydd Mawrth yn Anfield mi fydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal o flaen y Kop i goffhau'r 96 cefnogwr gollodd eu bywydau yn Sheffield.
Un oedd ynghanol y dorf ar y Leppings Lane ar y diwrnod hwnnw oedd Mark Williams o Dremadog:
"'Dw i'n cofio'r gêm yn dechrau, canu a gweiddi a phetha. 'Dw i'n cofio Peter Beardsley yn hitio'r bar ar ôl dau, dri munud. Ond pryd hitiodd o'r bar, doedd neb methu symud a cheerio na'm byd.... Roedd rhywbeth ddim yn teimlo'n iawn.
Gethin Morris Williams fu'n holi rhai o'r Cymry oedd yn Hillsborough am eu hatgofion nhw.
"Mewn ffordd rhyfedd, doedd dim gweiddi a canu a phethau. Roedd pobl yn dechrau sgrechian a trio symud, a doedd na'm math o symud. Yn amlwg iawn ac yn sydyn iawn, roedd rhywbeth yn wahanol.
"I'r diwrnod yma, dwi ddim yn cofio sut y dois i allan. Rhywsut neu'i gilydd, 'dw i 'di dod ar y cae tu ôl y gôl. 'Dw i'n cofio actually iste ar y gwair ar y cae, a jyst edrych o 'nghwmpas.
"Mi ffonies i adre, ac mi atebodd Dad. A'r unig beth ddwedais i ''Dw i'n iawn'. Dim ond hynna ddudish i. ''Dw i'n iawn'."
'Effeithio ar Lerpwl i gyd'
25 mlynedd yn ôl, Mairwen Haldane oedd un o brif swyddogion ardan gwasanaethau cymdeithasol dinas Lerpwl.
Wedi iddi glywed am y digwyddiadau yn Sheffield mi aeth ati yn syth i sefydlu llinell gymorth a chanolfan cefnogi i ddioddefwyr Hillsborough.
"Ar y bore dydd Llun, wnaethon ni agor yr Hillsborough Help Centre yn Stanley Park jyst wrth ymyl Anfield, a fan'na oedd y lle i unrhyw un ddwad oedd eisiau siarad, oedd isho jyst ista, isho rhyw siort o help, ac oedd 'na filoedd o bobl yn dwad.
"Dim jyst y teuluoedd oedd wedi colli'u rhieni, hogia oedd wedi bod yn y match, genod oedd wedi bod yn y match, pobl oedd yn dilyn ffwtbol o bell a meddwl 'be os basa fi 'di bod yna'.
"Oedd o 'di effeithio ar gymaint o bobl, a wedi effeithio ar Lerpwl i gyd, a deud y gwir."
Heb os, mae trychineb Hillsborough wedi gadael ei marc ar ddinas Lerpwl. Mae Grace Scott wedi byw yno ers bron i 40 mlynedd. Tan dair blynedd yn ôl, roedd hi'n gweithio fel nyrs yn y ddinas ac yn rhinwedd ei swydd fe ddaeth hi ar draws rhai o'r teuluoedd wnaeth ddioddef:
"Dwi di nyrsio perthnasau pobl oedd wedi colli un o'u perthnasau ac wedi nyrsio un hogyn oedd yn Hillsborough ar y pryd.
"Wrth gwrs, mae 'na gwmwl mawr ar benna pobl, pobl yn dioddef yn ofnadwy, ddim yn physical ond mental health. Mae pobl yn dal i ddioddef yn ddifrifol ynghylch be ddigwyddodd."
Gyda'r cwest yn Warrington i'r hyn ddigwyddodd ar deras Leppings Lane wedi ei ohirio am wythnos, fe fydd gan deuluoedd y 96 gyfle i gofio'u hanwyliaid yn ystod y gwasanaeth coffa yn Anfield.
Yn ystod y gwasanaeth blynyddol, mae sgarffiau gan gefnogwyr timau ar draws y byd yn cael eu gosod ar y cae - arwydd, fel y dywed anthem enwog clwb Lerpwl "You'll Never Walk Alone", bod y gymuned bel droed yn cyd alaru gyda nhw.
Straeon perthnasol
- 7 Ebrill 2014