Gwrthdrawiad Treforys: Apelio am dystion

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De'n apelio am dystion wedi gwrthdrawiad difrifol yn Nhreforys, Abertawe brynhawn dydd Llun.

Fe gafodd swyddogion eu galw i Ynysforgan, ger Parc Carafanau Riverside oddeutu 5.50pm.

Un car oedd yn rhan o'r digwyddiad - fe adawodd Ford Mondeo arian y ffordd o dan arglawdd y rheilffordd, a tharo yn erbyn coed.

Fe gafodd gyrrwr y car - dyn 47 oed - anafiadau difrifol, a chafodd ei gludo i Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd gan hofrennydd.

Yn ogystal, fe gafodd dau arall oedd yn y car - dyn 47 a dynes 21 oed - anafiadau llai difrifol, a'u cludo i Ysbyty Treforys.

Mae'r heddlu am siarad gydag unrhywun welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y car cyn hynny.

Gall unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Heddlu'r De ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.