Gwrthdrawiad: Apelio am wybodaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De'n apelio am dystion wedi gwrthdrawiad difrifol ger y Bontfaen brynhawn dydd Llun.
Fe gafodd swyddogion eu galw i'r A48 rhwng Pentre Meurig a Phen-y-bont ar Ogwr oddeutu 4.50pm.
Fe gollodd gyrrwr beic modur Yamaha YZFR 125 glas - oedd yn teithio o gyfeiriad y Bontfaen i Ben-y-bont - reolaeth ar y beic a tharo yn erbyn car Ford Focus arian oedd yn dod o'r cyfeiriad arall.
Gall unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Heddlu'r De ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.