Gyrru anghyfreithlon yn difrodi safleoedd wedi eu gwarchod
- Cyhoeddwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn apelio am wybodaeth gan dystion er mwyn rhwystro rhagor o ddifrod difrifol i ardaloedd sydd wedi eu gwarchod, yn dilyn achosion o dor-cyfraith diweddar.
Daw'r apêl yn dilyn cyfnod o dresmasu anghyfreithlon gan gerbydau 4x4 ym Mynyddoedd y Berwyn, Rhiwabon a Llantysilio.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru mae'r safleoedd gwarchodedig hyn yn hynod o fregus a dan fygythiad mawr oherwydd y difrod a achosir gan leiafrif o bobl sydd yn dewis gyrru eu cerbydau 4x4 ar y tir.
Mae'r rhostiroedd hyn yn cael eu gwarchod gan gyfraith y DU ac Ewrop, ac wedi eu dynodi fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDdGAau), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAoedd).
Mae'r ardaloedd yn gynefinoedd pwysig i'r gorgors, ac maen nhw hefyd yn cynnal grug a phlu'r gweunydd ar fawndir dwfn a rhostir sych, yn ogystal â grug a llus ar bridd tenau.
Adar prin
Mae'r rhain hefyd yn ardaloedd sy'n gartref i lu o adar prin, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru - adar fel y boda tinwyn, y cudyll bach, yr hebog tramor, y cwtiad aur, y gylfinir, y grugiar goch a'r grugiar ddu.
Oherwydd bod yr adar yn cael eu haflonyddu gan y cerbydau sydd yn gyrru yn yr ardaloedd sydd wedi eu gwarchod, maen nhw dan fygythiad drwy gydol y flwyddyn.
Mae'r ardaloedd a ddifrodir hefyd i'w cael o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd, sef dynodiad y DU sy'n cydnabod pwysigrwydd cymeriad a harddwch naturiol y dirwedd.
'Digwyddiadau difrifol'
Meddai'r Rhingyll Rob Taylor, Swyddog Troseddau Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru:
"Rydym yn ystyried y digwyddiadau hyn yn rhai difrifol iawn. Mae'n drosedd achosi difrod i'r safleoedd cadwraethol pwysig hyn.
''Os canfyddir bod unrhyw un yn achosi difrod i'r safle bydd achos cyfreithiol yn debygol o gael ei ddwyn yn ei erbyn; byddem yn annog cerddwyr ac eraill yn yr ardal i roi gwybod inni os ydynt yn gweld unrhyw weithgareddau anghyfreithlon."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd â chyfrifoldeb statudol i ddiogelu'r safleoedd bywyd gwyllt hyn, yn gweithio'n agos â'r Heddlu, Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a thirfeddianwyr i geisio atal pobl rhag gyrru cerbydau ar y safleoedd yma.
'Niweidio bywyd gwyllt'
Yn ôl David Smith o Gyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae'r rhostiroedd arbennig hyn yn rhan o'n treftadaeth naturiol a diwylliannol yma yng Nghymru. Mae'r gweithgaredd hwn yn gwbl annerbyniol ac yn niweidio bywyd gwyllt, amaethyddiaeth a mwynhad tawel y mwyafrif llethol o ymwelwyr.
''Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn benderfynol o atal y tresmasu hwn ac rydym yn cymryd camau er mwyn sicrhau ei fod yn dod i ben."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i unrhyw un sydd yn gweld gyrru anghyfreithlon ar y safleoedd hyn i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar y rhif ffôn 101.