Tanau bwriadol yn y gogledd: Apêl am wybodaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i swyddogion gael eu galw i ddiffodd chwe thân oedd wedi eu cynnau yn fwriadol yn y gogledd ddydd Llun a thros y penwythnos.
Cafodd swyddogion eu galw i danau ym Mlaenau Ffestiniog, Abersoch, Llangollen, Porthmadog, Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy.
Daw hyn yn dilyn 15 achos o danau bwriadol dros y penwythnos yn ardaloedd Bangor, Wrecsam, Abergele, Bagillt, Glannau Dyfrdwy, Treffynnon, Yr Wyddgrug a Maes-glas.
Tywydd
Dywedodd Kevin Jones, Rheolwr Atal Tanau Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru: ''Wrth i'r nosweithiau ymestyn a'r tywydd gynhesu, rydym yn aml yn gweld cynnydd mewn tanau bwriadol.
''Fodd bynnag, rydym wedi bod yn gweithio yn ddi-flino i fynd i'r afael â'r mater yn y blynyddoedd diweddar ac wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y digwyddiadau yr ydym wedi bod yn delio â nhw.''
''Rydym yn dibynnu ar rieni ac aelodau'r gymuned i weithio gyda ni i anfon y neges am ganlyniadau tanau bwriadol - ac felly rydym yn apelio ar y gymuned i'n helpu ni i sicrhau fod nifer y tanau bwriadol yn cael eu cadw i lawr.
"Mae'r nifer uchel o ddigwyddiadau dros y dyddiau diwethaf yn dangos fod tanwyr bwriadol yn ein cymunedau - a chyda rhagolygon am fwy o dywydd braf, mae'n hanfodol ein bod i gyd yn chwarae ein rhan i roi terfyn ar danau bwriadol.''
Rhwng Mawrth 1 ag Ebrill 30, 2011, cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i 252 o achosion o danau bwriadol dros ardal y gogledd.
Mae'r nifer o danau bwriadol wedi disgyn bob blwyddyn ers hynny, gyda 176 digwyddiad dros yr un cyfnod yn 2012 a 95 yn 2013.
Rhwng Mawrth 1 ac Ebrill 14, 2014, cafodd y gwasanaeth eu galw i 56 achos o danau bwriadol.
Gwefan gymdeithasol
Bydd y Tîm Atal Tanau yn defnyddio gwefan gymdeithasol Facebook yn ystod gwyliau'r Pasg i dargedu rhieni sydd yn byw yn ardaloedd Caergybi a Wrecsam lle mae tanau bwriadol yn gyffredin.
Yn ogystal â hyn fe fydd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yn mynd ar batrol yn y Rhyl, Bae Colwyn, Porthmadog a Threffynnon - ardaloedd oedd wedi gweld cynnydd yn nifer y tanau bwriadol yn ystod y Pasg diwethaf.
Ychwanegodd Mr Jones: ''Fe hoffwn gymryd y cyfle i apelio ar rieni i fod yn ymwybodol o ble mae eu plant yn mynd ac i wthio'r neges fod tanau bwriadol yn peryglu bywydau.
''Mae tanau bwriadol yn gosod pwysau mawr ar adnoddau, gyda'n criwiau yn cael eu dal mewn achosion am gyfnod hir wrth ymdrechu i reoli'r tanau hyn - sydd yn eu rhwystro rhag delio gyda digwyddiadau eraill allai beryglu bywydau.'
'Trosedd'
''Rhaid cofio fod cynnau tanau yn drosedd ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael â thanau bwriadol, gan ddefnyddio hofrennydd yr heddlu i ddarganfod tanau ac i chwilio am ddrwgweithredwyr.
''Rydym yn galw ar unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda llinell Taclo'r Taclau yn ddi-enw drwy ffonio 0800 555 111."