Menter iaith: dwy'n gadael swyddi

  • Cyhoeddwyd
Menter Cwm GwendraethFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd ei sefydlu yn 1991

Mae prif weithredwr a chadeirydd bwrdd rheoli Menter Cwm Gwendraeth Elli wedi gadael eu swyddi.

Cathryn Ings sy' wedi gadael ei swydd fel prif weithredwr a daw hyn ar adeg pan mae'r mudiad, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, yn wynebu nifer o newidiadau.

Mae BBC Cymru'n deall iddi adael ei swydd ddydd Iau a hynny oherwydd cytundeb ar y cyd.

Roedd hi'n arfer bod yn olygydd y Carmarthen Journal.

Mae'r Cynghorydd Sir Sian Thomas wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel caderiydd y bwrdd rheoli oherwydd anghytundeb â chydaelodau'r bwrdd.

Cyd-ddigwyddiad

Dywedodd y cynghorydd mai cyd-ddigwyddiad yn hytrach na chydamseriad oedd ei phenderfyniad i adael.

Mewn cyfweliad ar BBC Cymru honnodd y cynghorydd taw un rheswm am ymadawiad Ms Ings oedd bod rhai aelodau'r bwrdd yn anfodlon ar safon ei Chymraeg er iddi fynychu cyrsiau.

Dywedodd Ms Ings nad oedd am roi sylw.

Cadarnhaodd y Cynghorydd Thomas fod Caffi Cynnes a siop lyfrau'r fenter yn "colli arian" a bod bwriad i newid y ddarpariaeth.

Cafodd Menter Cwm Gwendraeth ei sefydlu yn 1991.

Cyflwr ariannol

Disgrifiad,

Aled Hughes yn holi'r cynghorydd Sian Thomas, am ei rhesymau dros roi'r gorau i'r swydd.

Mae'r mudiad yn cynnal nifer o weithgareddau, gan gynnwys clybiau chwaraeon i blant drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gofynnodd BBC Cymru i'r mudiad am eu cyflwr ariannol a phenderfyniadau mewnol.

Mewn datganiad dywedodd Nerys Burton, prif weithredwr dros dro y fenter: "Fe allwn ni gadarnhau yn ddiamod nad oes unrhyw ofid ariannol gennym.

"Mae'r fenter yn ail-strwythuro ar gyfer dyfodol cyffrous yn ein hanes ac yn bwriadu lawnsio sawl ymgyrch i hyrwyddo gwaith y fenter yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

"Mae bwrlwm y fenter yn parhau yn ôl ein harfer."

Mae 22 o fentrau iaith yng Nghymru, yn darparu ystod eang o gyfleoedd i blant, pobl ifanc, oedolion a dysgwyr i ddefnyddio'r iaith Gymraeg, ac yn 2012-13 fe dderbynion nhw £1.6 miliwn gan Lywodraeth Cymru.