Agor a gohirio cwest i farwolaeth sydyn bachgen
- Cyhoeddwyd

Cafodd cwest i farwolaeth sydyn bachgen 15 oed o Abertawe ei agor a'i ohirio ddydd Mawrth.
Roedd corff James Lock wedi cael ei ddarganfod mewn coed ger Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan, sy'n eiddo i Brifysgol Abertawe, ddydd Iau.
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i'r farwolaeth ac yn dweud nad oes esboniad eto.
Roedd James, a oedd yn dod o ardal Dyfnant, yn ddisgybl yn Ysgol yr Olchfa.
Fe ddechreuodd ei fam, Sarah Jones, grïo wrth i Grwner Abertawe,Philip Rogers, agor y gwrandawiad, a barodd 10 munud.
Meddai'r crwner: "Mae'n flin gen i eich bod yn gorfod bod yma heddiw o dan yr amgylchiadau hyn."
Dywedodd y crwner ei fod yn aros am ganlyniadau profion tocsicoleg, ynghŷd ag adroddiad post mortem llawn.
Ond cafodd corff y bachgen ei ryddhau i'r teulu, sydd yn gwneud trefniadau ar gyfer amlosgiad yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Cafodd y cwest ei ohirio tan Fedi 23.
Straeon perthnasol
- 14 Ebrill 2014