Michael McIntyre: Sylwadau am y Gymraeg yn 'annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Michael McIntyre
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Michael McIntyre ei sylwadau am y Gymraeg ar ei sioe drafod nos Lun

Unwaith eto mae 'na feirniadaeth wedi bod oherwydd sylw negyddol am yr iaith Gymraeg, gyda nifer yn anfodlon ar yr hyn ddywedodd y digrifwr Michael McIntyre ar ei sioe drafod ar BBC 1 nos Lun.

Wrth holi ei westai, y gyflwynwraig o Gymru Alex Jones, fe wnaeth Mr McIntyre gymharu'r Gymraeg â'r iaith sy'n cael ei defnyddio ar y gyfres blant, Pingu.

Fe aeth ymlaen i gwestiynu a oedd unrhyw un yng Nghymru'n siarad yr iaith.

Mae cynhyrchwyr y rhaglen wedi gwrthod gwneud sylw am y mater.

Roedd nifer wedi gwneud sylwadau beirniadol am y rhaglen ar wefan Twitter, ac ar raglen Taro'r Post ddydd Mawrth dywedodd un gwyliwr, Clwyd Spencer, ei fod yntau'n anhapus iawn ag agwedd y digrifwr at yr iaith ac at Gymru.

'Gwneud sbort'

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Alex Jones yn westai ar raglen Michael McIntyre nos Lun

"Roedd o'n amlwg i mi fod Alex Jones ddim yn gyfforddus efo'r ffordd roedd y cyfweliad yn mynd chwaith.

"Dwi'n gwybod y bydd rhai'n dweud bod ni'n rhy groendenau, bod isho chwerthin efo nhw.

"Ond roedd o jyst yn gwneud sbort er mwyn sbort, doedd o'm actually yn funny.

"'Tase Alex Jones yn dod o dras Moslemaidd, er enghraifft, a Michael McIntyre yn gwneud sbort ar yr iaith ma' nhw'n siarad, fasa hynny jyst ddim yn cael ei wneud."

'Llond bol'

Roedd yr awdur a'r cynhyrchydd teledu, Roger Williams, sydd hefyd yn Gadeirydd Urdd yr Awduron, wedi trydar sylwadau beirniadol am y rhaglen nos Lun, a dywedodd yntau ar Taro'r Post: "Ges i'n siomi neithiwr. Ro'n i 'di bod yn gwylio rhaglen arall o'r enw 8 out of 10 Cats a 'nath Jimmy Car ladd ar yr iaith Gymraeg.

"Wedyn 'nes i droi'r sianel a gweld Michael McIntyre yn gwneud rhywbeth tebyg ac, i ddweud y gwir, 'dwi 'di cael llond bol hefyd ar y busnes 'ma o 'neud jôcs am fy iaith i, am iaith fy nheulu a 'nghymuned i.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n amser i ni ddechrau cwyno i gynhyrchwyr y rhaglenni 'ma, ac i Ofcom, a dweud bod e ddim yn dderbyniol i ladd ar iaith leiafrifol.

"Dwi'n meddwl beth sy'n siomedig am y sefyllfa yma yw fod y perfformwyr yma, a'r bobl sy'n gweithio ar y rhaglenni 'ma, yn ennill arian mawr i gynnig adloniant i bobl, ac mae darlledwyr cyhoeddus yn rhoi platfform iddyn nhw i ddiddanu pobl a ma' nhw'n dewis diddanu eu cynulleidfa trwy ddangos diffyg parch tuag at y Cymry a Chymry Cymraeg.

"Dwi ddim yn meddwl bod hynny'n dderbyniol o gwbl."

Hefyd gan y BBC