Cyhuddo cwmni o 'sarhau' dyn anabl

  • Cyhoeddwyd
Colin Williams
Disgrifiad o’r llun,
Mae Colin Williams o'r Trallwng wedi dweud bod y profiad yn "llawn cywilydd"

Mae cwmni trenau wedi lansio ymchwiliad wedi i ddyn anabl honni nad oedd yn cael mynd ar drên.

Honnodd Colin Williams o'r Trallwng fod swyddog wedi gwrthod gadael iddo fynd ar y trên i'r Amwythig gan ei fod yn llawn.

Ond dywedodd Mr Williams, 41 oed, fod nifer o deithwyr wedi cael mynd i mewn i gerbyd ond na wnaeth y swyddog osod y ramp arbennig ar gyfer ei gadair olwyn.

Mae cwmni trenau Arriva yn dweud eu bod yn ymchwilio i'r mater.

Roedd Mr Williams, sy'n dioddef o barlys yr ymennydd, yn teithio ar ei ben ei hun i'r Amwythig i wylio ffrind yn perfformio mewn gŵyl gerddorol pan gafodd ei adael yng ngorsaf drenau'r Trallwng ddydd Sadwrn, Ebrill 5.

"Mi oeddwn i'n un o 20 o deithwyr oedd yn aros i fynd ar y trên ond wnaeth y swyddog ddim ymdrech i baratoi'r ramp ar fy nghyfer, er bod pobl wedi dweud wrtho y bydden nhw'n fy helpu i'r ardal anabl," meddai.

'Cywilydd"

"Fe fyswn i wedi bod yn ddigon hapus i deithio yn yr eil gyda'r bobl eraill achos dydy'r daith i'r Amwythig mond yn cymryd rhyw 20 munud.

"O'r hyn rwy'n ymwybodol ohono, fi oedd yr unig deithwyr na lwyddodd i fynd ar y trên hwn.

"Roedd yn brofiad llawn cywilydd ac ro'n i'n teimlo eu bod yn discrimineiddio yn fy erbyn oherwydd fy nghyflwr.

"Dwi wedi ysgrifennu llythyr ac ebost at Drenau Arriva yn gofyn am ymddiheuriad."

Llwyddodd i fynd ar fwrdd y trên nesaf oedd ddwy awr yn hwyrach.

"Erbyn i mi gyrraedd y digwyddiad, roedd fy ffrind eisoes wedi gorffen ei berfformiad," meddai.

"Roedd fy niwrnod wedi'i sbwylio a dwi'n flin am y ffordd gefais i fy nhrin."

Ymchwilio

Mae wedi siarad â theithwyr oedd yn defnyddio'r un trên ag ef y diwrnod hwnnw.

Dywedodd: "Mae un person aeth ar y trên wedi dweud wrtha i bod digon o le petai pobl wedi symud rhywfaint i lawr yr eil."

Mae grŵp ar gyfer pobl anabl wedi annog y cwmni i sicrhau bod eu staff yn ymwybodol o'u polisïau eu hunain ynglyn â phobl anabl.

Dywedodd Rhyan Berrigan, Swyddog Polisi Trafnidiaeth Anabledd Cymru: "Mae'n wasanaeth cwsmer gwael iawn, ac mae'n glir nad oedd y swyddog yn dilyn y drefn yn gywir.

Mae llefarydd ar ran Trenau Arriva wedi dweud: "Rydym yn flin i glywed bod y teithiwr wedi methu â mynd ar y gwasanaeth Aberystwyth i'r Amwythig yng ngorsaf y Trallwng ac rydym ar hyn o bryd yn ymchwilio i'r mater."