Gwrthdrawiad cychod: Merched yn ddieuog

  • Cyhoeddwyd
Nia Jones ac Eleni MorusFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Nia Jones ac Eleni Morus yn 17 pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ym Mae Caerdydd

Mae rheithgor wedi penderfynu bod dwy o hwylwyr ifanc gorau Prydain, darodd yn erbyn ei gilydd mewn cychod cyflym cyn i ferch 11 oed gael anafiadau i'w hymennydd, yn ddieuog.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod cychod Nia Jones ac Eleni Morus, oedd yn 17 ar y pryd, wedi taro ei gilydd ym Mae Caerdydd ym mis Hydref 2010.

Roedden nhw wedi'u cyhuddo o fethu â gyrru ar gyflymder diogel a methu â chadw golwg ddigonol.

Clywodd y llys eu bod nhw'n cludo merched rhwng 10 ac 14 oed, oedd ar gwrs hwylio, yn y nos.

Roedd y merched wedi cyfaddef gyrru'r cychod heb oleuadau ond mae'r barnwr wedi gollwng y cyhuddiad, ac mae'r ddwy wedi cael cerdded yn rhydd.

Hyfforddwyr

Wrth grynhoi y dystiolaeth yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd y Barnwr Neil Bidder QC wrth y rheithgor fod y merched yn hyfforddwyr ar gwrs preswyl i blant yn ystod gwyliau hanner tymor.

Roedd Miss Jones a Miss Morus wedi bod â'r merched ifanc i ganolfan sglefrio iâ a phan gafodd un o'r plant ei anafu doedd dim digon o oedolion i arolygu'r grŵp.

Roedd y ddwy wedi cael cais i ddychwelyd y plant i'w hostel yn y tywyllwch, ynghyd â dau oedolyn arall.

Wrth amlinellu achos yr amddiffyn, dywedodd y barnwr bod y ddwy ferch ifanc, sydd rwan yn 20 oed ac o Gaerdydd, wedi derbyn dim ond ychydig o wybodaeth am ddyletswyddau'u swyddi pan gafon nhw eu cyflogi.

Dywedodd Miss Jones wrth y llys nad oedd ganddi brofiad blaenorol o yrru yn y nos ac nad oedd yn sylweddoli nad oedd yn gymwys i wneud hynny.

Dywedodd Miss Morus nad oedd yn gor-yrru y noson honno a'i bod wedi cadw golwg ddigonol o'i chwmpas.

Ond dywedodd y barnwr fod y llys wedi clywed gan nifer o blant oedd wedi bod ar gwch Nia Jones ac a oedd wedi dweud eu bod wedi annog Miss Jones i yrru'n gyflymach.

Dywedodd rhai o'r tystion eu bod wedi clywed Miss Jones yn wfftio a dechrau gyrru'n gyflymach.

Mae Miss Jones wedi gwadu hyn a'i bod wedi anwybyddu'r merched.

Gyrru dros donnau

Mae'r llys wedi bod yn clywed tystiolaeth ddadleuol a oedd y ddwy wedi bod yn gyrru dros donnau'r cwch arall, fel yr oedden nhw wedi gwneud yng ngolau dydd.

Dywedodd y tyst bod y prif hyfforddwr, Nick Sawyer, wedi rhybuddio Miss Jones i beidio â gwneud hyn yn y tywyllwch.

Mae'r ddwy yn gwadu gyrru dros donnau cychod ei gilydd.

Maen nhw hefyd wedi dweud eu bod wedi cadw golwg ddigonol ac wedi gweld ei gilydd yn unig pan roedd hi'n rhy hwyr.

Clywodd y llys fod y gwrthdrawiad mor ffyrnig fel bod dwy ferch wedi eu taflu i'r dŵr tra bod trydedd wedi disgyn hanner ffordd i mewn.

Cafodd un ferch 11 oed anafiadau i'w hymennydd wedi iddi gael ei thaflu o un cwch i'r llall.

Roedd un wedi dioddef anafiadau i'w hasennau ac un wedi derbyn llygad ddu.

Mae Nicholas Sawyer a Chlwb Hwylio Bae Caerdydd, oedd wedi trefnu'r cwrs, wedi cyfaddef troseddau yn ymwneud â'r digwyddiad a thorri rheolau iechyd a diogelwch.