Dyfais amheus: Arestio dyn yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei arestio wedi i'r heddlu ddod o hyd i wrthrych yr oeddan nhw'n dweud "oedd yn edrych fel dyfais ffrwydrol".

Cafodd swyddogion Heddlu Gwent eu galw i gyfeiriad yn Ridgeway Drive, Casnewydd, am 11:45 fore dydd Mawrth.

Fe gysylltodd yr heddlu â'r uned difa bomiau a chafodd yr ardal ei chau.

Yn dilyn y digwyddiad, cafodd dyn 34 oed o Gasnewydd ei arestio ar amheuaeth o fod â dryll yn ei feddiant ac o gynhyrchu canabis.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa.