Bargeinion y brifwyl: tocynnau am £10

  • Cyhoeddwyd
Maes yr Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,
Nifer cyfyngedig o'r tocynnau rhataf fydd ar gael

Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn prysur agosau, mae'r trefnwyr yn cynnig tocynau am £10. Bydd modd prynu tocyn maes ar gyfer oedolyn am £10 a thocyn teulu yn cychwyn o £20.

Y bwriad ydy gwneud y brifwyl sydd yn Sir Gâr eleni mor "fforddiadwy â phosibl" meddai'r Prif Weithredwr, Elfed Roberts.

Ond mae'r eisteddfod yn rhybuddio y bydd angen i bobl brynu'r tocynnau mewn da bryd os ydyn nhw eisiau bargen ac mai nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael am y prisiau rhataf.

Dywedodd Elfed Roberts: "Bydd y cwsmeriaid mwyaf trefnus yn gallu bachu bargen gwirioneddol, gyda thocynnau Maes oedolion yn cychwyn o £10, a thocynnau teulu'n cychwyn o £20, felly rydym yn annog pobl i fynd ati i brynu'u tocynnau cyn gynted ag y bo modd - bore Mercher os yn bosibl.

"Rwy'n gobeithio y bydd hwn yn gynllun poblogaidd iawn a fydd yn apelio at Eisteddfodwyr o bob oed. Mae hwn, y tocyn wythnos a'r tocyn ieuenctid yn rhan o becyn o gynigion sydd wedi'u creu er mwyn sicrhau bod ein tocynnau a mynediad i'r Eisteddfod mor fforddiadwy â phosibl, ac rwy'n mawr obeithio y bydd ein hymwelwyr yn mynd ati i gymryd mantais o'r bargeinion yma cyn gynted â phosibl."

Tocyn trwy'r theatr

Yn ôl y Prif Weithredwr, maen nhw wedi penderfynu gwneud hyn ar ôl cynnal gwaith ymchwil i'r system tocynnau. Roedd y gwaith yn edrych ar y math o gynigion allai gael eu cynnig i bobl oedd yn dod i'r maes.

Bydd y tocynnau yn dechrau cael eu gwerthu o ddydd Mercher, Ebrill 23, ymlaen, 100 diwrnod cyn dechrau'r brifwyl.

Cafodd y penderfyniad ei wneud yn eisteddfod genedlaethol Sir Ddinbych y llynedd i werthu tocynau 100 diwrnod cyn i'r eisteddfod ddechrau. Un o'r rhesymau oedd bod mwy o bobl yn dewis prynu ar-lein rwan ac yn aros yn hwyrach nes talu am docyn.

Eleni hefyd bydd modd i bobl brynu tocynnau trwy gysylltu gyda'r ddwy theatr leol.

"Datblygiad arall eleni yw bod ein tocynnau am fod ar werth yn Theatrau Sir Gâr am y tro cyntaf, a bydd modd eu prynu ar-lein drwy'r wefan neu wrth fynd i Theatr y Ffwrnes yn Llanelli, y Lyric yng Nghaerfyrddin a'r Miners yn Rhydaman.

"Rydym yn hynod falch bod modd i ni wneud hyn, gan ei fod yn galluogi pobl i bicio i mewn i brynu tocynnau yn uniongyrchol ar adeg sydd orau iddyn nhw."

Bydd modd prynu tocynnau ar lein neu trwy'r ddwy theatr neu trwy ffonio'r llinell docynnau, 0845 4090 800.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol