Cwtogi oriau gweithwyr Cyngor Dinas Caerdydd i arbed arian
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn bwriadu cwtogi oriau gwaith eu gweithwyr o awr yr wythnos mewn ymgais i wneud arbedion ariannol.
Yn ôl datganiad gan y cyngor ddydd Mawrth, fe fydd 'pecyn gweithlu' yn dod i rym ar Awst 1, 2014, fydd yn golygu y bydd gweithwyr llawn amser yn gweithio 36 awr yr wythnos yn hytrach na 37.
Arbedion
Mae'r cyngor yn wynebu arbedion gwerth £50 miliwn ar gyfer 2014/15, a gobaith y cyngor ydi y bydd cwtogi oriau'r gweithlu yn gam i'r cyfeiriad cywir wrth ymdrechu i wneud yr arbedion hyn.
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol o 45 diwrnod a ddechreuodd ar 28 Chwefror, mae'r Cyngor wedi ystyried y sylwadau a wnaed ac wedi penderfynu y caiff y pecyn gweithlu ei weithredu ym mis Awst.
Dywedodd Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd: "Mae pawb yn gwybod bod yn rhaid i gynghorau ledled Cymru wneud toriadau nas gwelwyd eu math o'r blaen. Mae'r gyllideb a bennwyd ym mis Chwefror yn nodi'r arbedion gwerth £50 miliwn sydd angen eu cyflawni ar gyfer 2014/15, ac mae'n taro cydbwysedd rhwng yr angen parhaus i ddarparu gwasanaethau rheng flaen allweddol a sicrhau'r effaith leiaf posibl ar y Dreth Gyngor a staff.
"Bu'r Cyngor yn cydweithio â'r Undebau Llafur ar y mater hwn ers tro, ond gwaetha'r modd, nid oedd yn bosibl dod i gyd-gytundeb, gyda dim ond 3 o'r 4 undeb llafur yn cytuno i'r cynigion.
'Ymgynghoriad'
''Yn dilyn yr ymgynghoriad, ystyried y sylwadau ac ystyried ein penderfyniad, rydym bellach wedi gorfod mynd drwy'r broses gyfreithiol o weithredu'r pecyn gweithlu i gyflawni'r arbedion angenrheidiol yn unol â'r gyllideb y cytunwyd arni ar 27 Chwefror 2014".
Dan y newidiadau hyn, o fis Awst, bydd y rhan fwyaf o staff y Cyngor dan gontract i weithio 36 awr yr wythnos, yn hytrach na 37 awr (pro rata ar gyfer staff rhan amser), gyda chyflogau uwch reolwyr yn cael eu torri gan 1.8%.
Ychwanegodd y Cynghorydd Bale: "Bydd y rheolwyr yn cydweithio'n agos â staff i sicrhau eu bod yn cael yr holl wybodaeth a chymorth yn ystod y newid hwn mewn oriau gwaith, ac anogaf reolwyr i fod yn hyblyg o ran sicrhau'r lleihad o un awr".
'Cydweithio'
"Rhaid i ni gydweithio er lles pobl Caerdydd, ac mae'r Undebau Llafur yn rhan allweddol o'r ffordd yr awn i'r afael â'r heriau hyn yn y dyfodol"
"Mae'n rhaid i'r ffordd y mae Caerdydd yn darparu gwasanaethau newid, a bydd fy nghabinet yn cyflwyno cynigion o ran sut y gallwn weithio mewn ffordd wahanol, cydweithio â'r Undebau Llafur a'n cymunedau, manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgîl yr agenda Cyngor cydweithredol a dulliau arloesol eraill o ddarparu gwasanaethau.
''Dyma ein blaenoriaeth, gan y bydd y pwysau cyllidebol hyn yn parhau hyd y gellir rhagweld, ac fel Cyngor, mae'n rhaid i ni addasu yn sgîl y newidiadau a pharhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da i'r cymunedau a gynrychiolir gennym."