Dementia: 'angen gwella cynllunio'
- Cyhoeddwyd

Mae adolygiad cenedlaethol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) wedi dod i'r casgliad fod angen i awdurdodau lleol a byrddau iechyd wneud newidiadau mawr i'r ffordd y maen nhw yn cynllunio ac yn comisiynu gwasanaethau ar gyfer pobl â dementia.
Fel rhan o'r adolygiad, fe wnaeth yr Arolygiaeth hefyd ymweld â phum awdurdod lleol i weld pa mor dda yr oedd gwasanaethau i bobl â dementia a'u gofalwyr yn cael eu comisiynu.
Roedd yr adolygiad, a gynhaliwyd rhwng mis Gorffennaf 2013 a mis Ionawr 2014, yn edrych ar ba mor dda yr oedd awdurdodau lleol yn gweithredu'r arweiniad statudol ar gomisiynu a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2010.
Arolygiaeth Gofal
Yn ôl Imelda Richardson, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru: "Mae awdurdodau lleol yn trawsnewid eu gwasanaethau er mwyn cynorthwyo pobl i ddal ati i fyw yn eu cartref ac yn eu cymuned eu hunain.
''Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl yn deall pam y mae angen gwneud y newidiadau hyn.
"Erbyn 2021, rhagwelir y bydd nifer y bobl â dementia ar draws Cymru wedi cynyddu 31%, ac o gymaint â 44% mewn rhai ardaloedd gwledig.
''Mae'n rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gynyddu pa mor gyflym y maent yn trawsnewid gwasanaethau i ddarparu modelau integredig o ofal, fydd yn cefnogi pobl â dementia a'u gofalwyr yn effeithiol.
'Gweledigaeth'
''Mae'r weledigaeth, sydd wedi ei mynegi yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn golygu dull cwbl wahanol, wedi ei adeiladu ar wasanaethau sy'n canolbwyntio ar y dinesydd; canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau gyda mwy o gydweithredu ac integreiddio gwasanaethau."
Mae'r adroddiad yn nodi ''nad yw'r trefniadau presennol ar gyfer comisiynu gwasanaethau yn gynaliadwy, yn wyneb y galw a'r pwysau ariannol a ragwelir yn y dyfodol''.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi fod y symud tuag at integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn araf.
'Bylchau sylweddol'
Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod ''bylchau sylweddol mewn cynllunio a darparu gwasanaethau ataliol ac ymyrryd yn gynnar ar gyfer pobl â dementia, ac mai rhywbeth 'ad hoc' yw comisiynu gwasanaethau ataliol gan y trydydd sector''.
Mae'r adolygiad yn mynd yn ei flaen i awgrymu y dylai awdurdodau lleol a byrddau iechyd ''ddatblygu eu gweledigaethau presennol yn gynlluniau pendant ar gyfer trawsnewid gwasanaethau,'' ynghŷd â ''chysylltu'n effeithiol â'r cyhoedd yn y ddadl ynghylch trawsnewid gwasanaethau ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion''.
Mae awgrymiadau eraill yr adolygiad yn cynnwys integreiddio'r ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn effeithiol a datblygu cynlluniau ar y cyd ar gyfer comisiynu gwasanaethau ar gyfer pobl â dementia a'u gofalwyr, a gweithredu strategaethau effeithiol sy'n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i gefnogi gofalwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2013