Cyfarfod i drafod Ysgol Uwchradd newydd i'r Rhyl
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl bydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych yn cymeradwyo cynllun i adeiladu ysgol uwchradd newydd ar gost o £24.6m yn Y Rhyl.
Bydd yr ysgol newydd â thri llawr ac yn cael ei lleoli ar gaeau chwarae'r ysgol bresennol.
Yn ôl y cynlluniau, bydd yr ysgol newydd yn ddigon mawr i ddysgu 1,245 o ddisgyblion, yn ogystal â darparu canolfan ar gyfer 45 o ddisgyblion o ysgol arbennig gyfagos, Ysgol Tir Morfa.
Fel rhan o'r datblygiad, bydd adran hamdden newydd, gyda lle i gaeau chwarae a rhai aml-bwrpas.
Mae Cyngor Sir Dinbych yn gwario £12m ar y prosiect gyda'r gweddill yn dod o gynllun Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif y Llywodraeth.
Agor erbyn 2016?
Meddai Graham Boase, pennaeth cynllunio a gwarchod y cyhoedd, Cyngor Sir Ddinbych, yn yr adroddiad: "Y bwriad ydi dymchwel adeiladau'r ysgol bresennol ac yna adeiladu'r ysgol newydd.
"Bydd y ganolfan hamdden yn cael ei gadw.
"Bydd yr ysgol newydd yn disodli'r hên un, sydd yn gymysgedd o hen adeiladau sydd wedi dod i ddiwedd eu hoes defnyddiol."
Ar un adeg, roedd yr ysgol o dan fesurau arbennig, ond codwyd y rheiny yn 2010 ac apwyntiwyd prifathro newydd i'r ysgol.
Yn barod mae'r datblygwyr, Wilmott Dixon Construction, wedi cael eu penodi i adeiladu'r ysgol.
Mae disgwyl bydd adeiladu'r ysgol newydd wedi gorffen erbyn mis Mawrth 2016.
Straeon perthnasol
- 3 Awst 2010
- 23 Ionawr 2012