Dyn wedi marw yn dilyn damwain ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn ei 20au wedi marw yn yr ysbyty o anafiadau i'w ben wedi damwain ar Ynys Môn.
Digwyddodd y ddamwain ar ffordd gefn rhwng Llanfaelog a Bryngwran tua 5yh ddydd Llun, Ebrill 14.
Roedd yn un o ddau deithiwr mewn Ford Transit gwyn, yr unig gerbyd yn y ddamwain.
Mae plismyn yn awyddus i siarad â dyn a menyw oedd yn cerdded ar hyd y ffordd ar y pryd ac a gynigiodd helpu.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod R054946.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol