Trafod dyfodol Coleg Diwinyddol Mihangel Sant
- Cyhoeddwyd

Mae yna argymhelliad y dylid cau Coleg Diwinyddol Mihangel Sant yng Nghaerdydd, sefydliad sydd wedi bod yn hyfforddi offeriaid ers 1892.
Y coleg yw'r unig goleg preswyl llawn amser yng Nghymru ar gyfer hyfforddi offeriaid.
Y llynedd fe wnaeth yr Eglwys yng Nghymru gomisiynu tîm i wneud argymhellion ynghylch sut i ddarparu'r hyfforddiant gorau ar gyfer y dyfodol.
Cafodd yr argymhellion eu cyflwyno i Fainc yr Esgobion ym mis Mawrth.
Ers hynny bu ymgynghori o fewn yr eglwys ac yn allanol.
Dywed adroddiad y dylai cyrsiau preswyl llawn amser yng Ngholeg Mihangel Sant yn Llandaf ddirwyn i ben yn 2016.
Hyd yn oed os bydd Coleg Diwinyddol Mihangel Sant yn cau fe fydd myfyrwyr presennol y coleg sy'n dilyn cyrsiau gradd neu ôl-radd yn gallu cwblhau eu hastudiaethau yno.