20 mlynedd o garchar i gyn athro o Lanelwy
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Sir Ddinbych wedi ei garcharu ym Morocco am 20 mlynedd am gipio a cheisio treisio tair o ferched ifanc.
Mewn llys yn ninas Tetouan cafwyd Robert Bill, 59 oed o Lanelwy, yn euog.
Ym mis Mehefin 2013 cafodd ei arestio yn Tetouan yng ngogledd Morocco ar ol i bobl glywed merch chwech oed yn sgrechian yn ei gar.
Mi oedd hefyd wedi ei gyhuddo o gipio a cheisio treisio dwy ferch arall o Morocco cyn iddo gael ei arestio.
Cyfnod i apelio
Mi oedd y cyn athro wedi ei garcharu ym Mhrydain yn 2009 am drio cipio merch bump oed yn Nhreffynnon yn 2007.
Ar ol cael ei ryddhau o'r carchar mi aeth i dde Sbaen cyn symud i Morocco ym mis Tachwedd 2012.
Yn ystod yr achos diweddara gwadodd y cyhuddiadau ac mae ganddo 10 diwrnod i apelio yn erbyn y ddedfryd.
Mae hefyd wedi derbyn dirwy o 100,000 dirhams, tua £7,350.