Nifer y di-waith yng Nghymru yn gostwng
- Cyhoeddwyd

Mae nifer y di-waith yng Nghymru wedi gostwng 6,000 i 102,000 yn y chwarter diwethaf, yn ôl ffigyrau swyddogol.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau fod 6.8% yn ddiwaith sy'n is na'r cyfartaledd ar gyfer y Deyrnas Gyfun.
Roedd gostyngiad o 77,000 yn nifer y di-waith yn y DU yn yr un cyfnod rhwng Rhagfyr a Chwefror, cyfartaledd o 6.9%.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones fod y ffigyrau yn dangos bod economi Cymru yn perfformio'n gryfach na gweddill y DU.
Dywedodd Esther McVey Gweinidog Cyflogaeth San Steffan: "Yng Nghymru roedd y cynnydd mwyaf ymhlith y bobl sy mewn cyflogaeth - 2.2% yn uwch i 71.1%.
"Mae mwy o fusnesau led-led y DU yn cyflogi pobl - ac iddyn nhw mae'r diolch fod Prydain yn ôl yn gweithio unwaith eto.
"Ond mae yna ragor i'w wneud.
"Dyna pam yr wyf yn gofyn i gyflogwyr yng Nghymru gydweithio gyda ni, er mwyn manteisio ar y talent sydd ar gael."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2014