Cwest i farwolaeth dyn busnes: 'diffyg triniaeth brydlon'
- Cyhoeddwyd

Mae arbenigwr wedi dweud wrth gwest yn Aberdaugleddau ei bod hi'n debygol fod diffyg triniaeth feddygol brydlon wedi cyfrannu at farwolaeth dyn busnes 82 oed o Sir Benfro.
Bu farw Malcolm Green o ganlyniad i waedu mewnol wedi llawdriniaeth ar diwmor yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, yn 2012.
Clywodd y cwest fod y gwerthwr ceir o Hwlffordd wedi marw dridiau ar ôl llawdriniaeth frys i geisio rhwystro gwaedu.
Mae swyddogion iechyd wedi cyfaddef methu ag ymateb i gyflwr Mr Green yn ddigon prydlon.
Dywedodd yr Athro Michael Keighley, llawfeddyg wedi ymddeol, y byddai'r dyn busnes "yn debygol o fod wedi goroesi" pe bai wedi cael llawdriniaeth cyn 10.15am ar Fehefin 27 er mwyn atal gwaedu mewnol.
Oedi
Ni chafodd y llawdriniaeth tan 1pm a bu farw dri diwrnod yn ddiweddarach.
Yn ôl yr Athro Keighley, y prif reswm am fethiant organau Mr Green oedd yr oedi mewn llawdriniaeth.
Dywedodd y dylai'r uwch-swyddog preswyl fod wedi cysylltu â'r cofrestrydd ar ôl gweld canlyniadau pwysau gwaed isel Mr Green am 6.30am
Clywodd y cwest nad oedd yr Athro Keighley'n derbyn penderfyniad y llawfeddyg ymgynghorol Mr Otumeluke Umeghele, sef aros am gyflenwadau gwaed cyn cynnal ail lawdriniaeth.
"Os yw claf yn gwaedu, rydych yn atal y gwaedu. Dydych chi ddim yn aros am gyflenwadau gwaed."
Honnodd fod y llawfeddyg wedi gweithredu'n groes i'w ddyletswyddau drwy beidio â chymryd camau cyn 10.15am y diwrnod dan sylw.
Paratoadau
Clywodd y cwest fod Mr Green wedi cael llawdriniaeth i dynnu tiwmor o'r coluddyn mawr ar Fehefin 26.
Ond roedd pryder dros nos wrth i'w bwysau gwaed ddisgyn.
Y diwrnod canlynol dywedodd staff ei fod yn gwaedu'n fewnol. Gwnaed paratoadau ar gyfer llawdriniaeth frys am 10am.
Ond ddigwyddodd hynny ddim am dair awr arall.
Dywedodd Mr Umughele wrth y cwest ei bod hi'n glir fod yna waedu ar ôl y llawdriniaeth, o bosib oherwydd bod pwyth wedi dod yn rhydd.
Yn ôl Mr Umughele, ar y pryd roedd yn credu bod rhai o organau Mr Geeen yn methu a bod ei obeithion o oroesi yn isel.
Ond wfftiodd honiadau prif anesthetydd yr ysbyty Mr Joel Green, sef bod y tîm yn barod i gynnal llawdriniaeth am 10am.
Yn y datganiad dywedodd y prif anesthetydd iddo fynd i'r clinig canser am hanner dydd i ofyn i Mr Umughele fynd i'r theatr am fod y claf yn ddifrifol wael.
Cyflenwadau
Dywedodd nad oedd yna unrhyw olwg o Mr Umughele.
Honnodd Mr Umghele ei fod wedi mynd yn syth i'r theatr wedi i'r prif anesthetydd ddweud wrtho fod y cyflenwadau gwaed wedi cyrraedd.
Mewn datganiad gafodd ei ryddhau ar ôl marwolaeth y dyn busnes fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda dderbyn fod yna fethiannau wedi bod yng ngofal Mr Green.
Ar y pryd dywedodd llefarydd eu bod yn ymddiheuro i'r teulu a'u bod wedi cynnal ymchwiliad llawn.
"Mae camau wedi eu cymryd i sicrhau nad yw methiannau yma yn digwydd eto ac y bydd unrhyw wersi sydd i'w dysgu yn cael eu rhannu ymhlith staff," meddai'r datganiad.
Daeth y dystiolaeth i ben ddydd Mercher a bydd y crwner yn cyhoeddi ei gasgliad yn ddiweddarach.