Tân mewn canolfan ailgylchu yn fwriadol

  • Cyhoeddwyd
Tan Canolfan AilgylchuFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Roedd tua 2,000 o dunelli o blastig a phren yn llosgi am bum niwrnod

Mae'r heddlu yn dweud bod tân mewn canolfan ailgylchu ar gyrion Caerdydd wedi'i gynnau'n fwriadol.

Roedd tua 2,000 o dunelli o blastig a phren wedi mynd ar dân yng nghanolfan ailgylchu Atlantic, Ffordd Newton, ger Tredelerch yn gynnar ddydd Gwener, Mawrth 28.

Roedd 70 o swyddogion yn ymladd y tân ar un cyfnod, a bu'n llosgi am bum niwrnod.

Roedd llawer o wastraff ar dân, yn ogystal â rhai adeiladau, cerbydau a rhwng 30 a 40 o silindrau nwy.

Mae Heddlu De Cymru yn dweud eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad wedi iddyn nhw ddarganfod ei fod wedi cael ei gynnau'n fwriadol.

Roedd swyddogion yn poeni am gyfnod am lefel llygredd yn yr awyr tra bod y tân yn llosgi.