500 litr o olew wedi ei ddwyn ym Mrithdir
- Cyhoeddwyd

Mae 500 litr o olew cynhesu wedi ei ddwyn o adeilad ym Mrithdir ger Dolgellau. Yn ol yr heddlu cafodd yr olew ei ddwyn rhywbryd rhwng Mawrth 14 ac Ebrill 8. Mae'r tanc oedd yn dal yr olew hefyd wedi ei ddifrodi.
Dywedodd Swyddog Cefnogi Cymuned yr heddlu, Gareth Jones:
"Mi fyddai'r lladron wedi bod angen cerbyd er mwyn medru gwneud hyn. Felly mi ydyn ni yn awyddus i glywed gan unrhyw un wnaeth weld unrhyw gerbydau neu bobl amheus.
"Mi ydyn ni hefyd eisiau clywed gan unrhyw un sydd gydag unrhyw wybodaeth allai fod o fudd i ni er mwyn i ni ddarganfod pwy oedd y lladron."
Mae Gareth Jones yn cynghori pobl i fod yn wyliadwrus ac i gadw golwg cyson ar faint o olew sydd gyda nhw yn eu tanciau. Mae o hefyd yn dweud wrth bobl am ffitio cloeon ac i roi golau diogelwch o gwmpas yr ardal lle mae'r tanc yn cael ei gadw.
Mi allith unrhyw un sydd gyda gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru trwy ffonio 101 neu Taclo'r Taclau yn anhysbys ar y rhif 0800 555 111 gan roi'r rhif cyfeirnod RC14054753.
Straeon perthnasol
- 8 Chwefror 2012
- 28 Chwefror 2011