Tân mewn hên ysgol yn Dinbych: trin fel un amheus
- Cyhoeddwyd
Mae tân wnaeth ddigwydd mewn hên ysgol yn cael ei drin fel un amheus.
Cafodd criwiau tân ei galw i Ffordd Grove yn Ninbych toc cyn chwech o'r gloch ddydd Mawrth.
Mae Heddlu'r Gogledd wrthi yn cynnal ymholiadau yn yr adeilad ac yn gofyn i unrhyw un a welodd unrhywbeth amheus i gysylltu gyda gorsaf heddlu Dinbych ar y rhif 101.
Mae hi hefyd yn bosib ffonio Taclo'r Tacle yn anhysbys ar y rhif 0800 555 111.