Gwlithod o'r cyfandir yn heidio yma

  • Cyhoeddwyd
GwlithenFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Mae wyth rhywogaeth ychwanegol o wlithod wedi eu darganfod

Mae astudiaeth gan wyddonwyr Amgueddfa Cymru yn dangos bod 20% yn fwy o rywogaethau o wlithod ym Mhrydain nag erioed o'r blaen.

Mae'r rhan fwyaf eisoes yn gyffredin ac fe allen nhw fod yn fygythiad newydd i arddwyr a byd amaeth.

Mae'n debygol mai o dir mawr Ewrop y daw'r rhan fwyaf o'r wyth rhywogaeth ychwanegol - o Sbaen, Ffrainc, yr Eidal, Bwlgaria neu Iwcraen.

Fe gawson nhw eu canfod mewn cynefinoedd amrywiol, o erddi i goetiroedd, ac maen nhw'n bwyta blagur, gwreiddiau a hyd yn oed mwydod.

Dr Ben Rowson, Sŵolegydd Amgueddfa Cymru a arweiniodd y gwaith, ar y cyd gyda Bill Symmondson o Brifysgol Caerdydd a Roy Anderson o'r Gymdeithas Gregynegol.

Cynhyrchu llawlyfr

Daethpwyd o hyd i'r rhywogaethau ychwanegol wrth gasglu gwlithod o gynefinoedd ar draws Prydain ac Iwerddon er mwyn cynhyrchu llawlyfr adnabod newydd.

Defnyddiodd y gwyddonwyr DNA, technegau anatomegol a ffotograffiaeth ddigidol i adnabod pob gwlithen a sicrhau fod y llawlyfr yn gywir.

Meddai Dr Rowson, "Roedden ni'n gwybod sut i ddod o hyd i'r 36 rhywogaeth hysbys o wlithen, er bod rhai ohonynt yn gymharol brin, ond cawsom syndod o ganfod cymaint o rywogaethau nad oedd yn gyfarwydd i ni.

"Roedd rhai yn amlwg ar yr olwg gyntaf ac eraill yn aneglur, a dim ond trwy archwilio ymhellach oedd modd i ni fod yn siŵr eu bod yn wahanol."

Roedd yr astudiaeth ddwy flynedd yn cymharu dilyniannau DNA o gannoedd o wlithod a gasglwyd o'r newydd â data o Ewrop, ac yn dangos fod pob rhywogaeth ychwanegol yr un mor eglur yn enetig ag eraill yn ei grŵp.

Yn y rhan fwyaf o achosion, roeddent yn amlwg yn wahanol o ran eu hedrychiad neu gyrff hefyd.

Mae'r cofnodion yn awgrymu bod y rhan fwyaf o'r rhywogaethau eisoes wedi ymsefydlu mewn nifer o leoedd ac mae'r ymchwilwyr o'r farn fod pob un ohonynt naill ai wedi'u cyflwyno'n ddiweddar neu heb eu cofnodi yn y gorffennol.

Meddai Dr Rowson, "Daethom o hyd i un rhywogaeth fach sy'n bwyta tatws mewn rhandiroedd yng Nghymru, mewn mynwent yng ngorllewin Iwerddon ac ar dir diffaith ar Ynys Wyth.

"Ymddengys iddi gael ei chyflwyno o Fwlgaria neu Ukrain, ac mae eisoes wedi bridio ac ymledu'n ddisylw. Mae'r pryder am wlithod yn mynd law yn llaw â'r tymhorau neu'r tywydd, ond mae dod o hyd i'r holl rywogaethau ychwanegol hyn yma yn destun pryder difrifol."

Mae gwlithod Prydain wedi bod yn destun trafod i'r wasg dros y blynyddoedd diweddar, yn enwedig yr Ysbrydwlithen gigysol, y Wlithen Lechwraidd Sbaenaidd a'r drwg-enwog Wlithen Sbaenaidd.

'Syndod o ddeniadol'

Ond mae'r 8 rhywogaeth ychwanegol yn fwy o stori fyth.

Bydd y llawlyfr newydd yn cynnwys lluniau o'r holl wlithod Prydeinig a Gwyddelig. Mae rhai ohonynt yn syndod o ddeniadol, ac nid yw pob un yn bla.

Fodd bynnag, mae Dr Rowson a'r tîm yn dal yn ansicr am fathau a tharddiad rhai o'r rhywogaethau ychwanegol.

Mae'n bosib fod rhai yn newydd i wyddoniaeth hyd yn oed, gan fod sawl rhan o Ewrop y credir i rywogaethau o wlithod sydd heb eu hadnabod fodoli.