Enwogion Cymru'n ymuno i ddathlu DT100

  • Cyhoeddwyd
Michael Sheen
Disgrifiad o’r llun,
Michael Sheen yn cymryd rhan yn y cynhyrchiad

Fe fydd llu o ser Cymru'n dod at ei gilydd i berfformio addasiad newydd o un o ddramâu enwoca' Dylan Thomas.

Mae'r perfformiad yn rhan o ddathliadau Dylan Thomas 100.

Fe fydd Under Milk Wood yn cael ei ddarlledu gan BBC One Wales ddechrau mis Mai.

Ymysg yr enwogion sy'n cymryd rhan, mae Syr Tom Jones, Michael Sheen, Matthew Rhys, Siân Phillips, Nia Roberts, Bryn Terfel, Katherine Jenkins a Charlotte Church.

Fe gafodd y rhaglen ei ffilmio yn Efrog Newydd, Los Angeles, Llundain, Caerdydd a Thalacharn.

Hoff dafarndai

Fe gymrodd Dylan Thomas 10 mlynedd i ysgrifennu'r ddrama wreiddiol, a gafodd ei pherfformio am y tro cynta' yn Efrog Newydd yn 1953.

Mae'r cynhyrchiad hwn yn adlewyrchu'r broses honno drwy ymweld â rhai o hoff dafarndai'r bardd.

Yn ôl Katherine Jenkins, mae wedi bod yn "hyfryd i fod yn rhan o brosiect yn dathlu Cymro mor arbennig.

"Mae wedi bod yn bleser cydweithio gyda chymaint o Gymry dwi'n eu parchu a'u hedmygu. Dw i'n gobeithio y bydd y cyfanwaith yn deyrnged deilwng."

Meddai Uwch-gynhyrchydd y rhaglen, Bethan Jones: "Mae gweithio gyd chriw o Gymry mor dalentog wedi bod yn fraint anhygoel...

"Mae'n brofiad gwych gweld y geiriau'n ffres ac yn fyw eto yn nwylo'r cast gwych. Mae fel bod y ddrama hon yn rhan o DNA pawb."