Remploy: Ymestyn cynllun
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn dyddiad cau cynllun sy'n rhoi cyfle i gyflogwyr ymgeisio am arian i helpu cyn-weithwyr Remploy i ddod o hyd i waith.
Yn 2012, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei bod yn cau ffatrïoedd Remploy ar draws Cymru.
Mewn ymateb i hyn, aeth Llywodraeth Cymru ati i lansio cynllun Grant Cymorth i Gyflogwyr (ESG) i roi help ariannol i gyflogwyr sy'n awyddus i gyflogi gweithwyr anabl Remploy.
Roedd y cynllun i fod i ddod i ben ddiwedd Ebrill eleni ond mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ymestyn y dyddiad cau tan fis Medi 2014.
Mawrth 2015
Mae hyn yn golygu y bydd modd parhau i ddefnyddio'r grant i lenwi swyddi tan fis Mawrth 2015.
Hyd yma, mae'r polisi wedi helpu 221 o gyn-weithwyr Remploy i ddod o hyd i waith gyda thros 80 o fusnesau.
Hefyd, mae'r panel sy'n penderfynu pwy sy'n cael help gan y cynllun wedi cymeradwyo 177 o swyddi eraill.
Yn ogystal, mae'r cynllun wedi helpu cyn-weithwyr Remploy i sefydlu busnesau newydd - yn eu plith cwmni cydweithredol newydd yn Abertawe ac yn y Rhondda, mae criw o gyn-weithwyr Remploy wedi llwyddo i brynu'r cwmni oedden nhw'n arfer ei reoli.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Jeff Cuthbert, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi:
"Roeddem yn gwrthwynebu cau ffatrïoedd Remploy Cymru o'r cychwyn cyntaf. Fe wnaethom ofyn i Lywodraeth y DU i fod yn fwy adeiladol a rhoi'r cyfrifoldeb dros Remploy yng Nghymru a chyfran briodol o'r gyllideb i ni.
"Pan wrthodwyd ein cynnig, aethom ati i sefydlu'r cynllun er mwyn helpu'r rheini oedd yn wynebu diweithdra. Bellach, mae'r cynllun wedi helpu 221 o gyn-weithwyr Remploy gael hyd i waith.
"Rydym nawr yn estyn yr amser sydd gan fusnesau i ymgeisio am arian o'r gronfa er mwyn sicrhau bod pob un o gyn-weithwyr Remploy yn cael hyd i swydd newydd.
"Byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino i helpu'r rhai yr effeithiwyd arnynt pan gaeodd ffatrïoedd Remploy i ddod o hyd i waith, gwaith y maen nhw'n ei fwynhau ac sy'n siwtio eu hamgylchiadau."
Straeon perthnasol
- 26 Chwefror 2014
- 21 Chwefror 2014
- 14 Hydref 2013