Prynu Coron Blaenau ar eBay

  • Cyhoeddwyd

Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.

Fe gafodd y 'Steddfod ei chynnal ym Mlaenau yn 1898.

Mae'r Gadair - gafodd ei hennill gan fardd lleol, Robert Hughes - wedi bod yn siambr y Cyngor Tref ers blynyddoedd, ac mae'n cael ei defnyddio gan gadeirydd y cyngor mewn cyfarfodydd.

Doedd neb yn gwybod beth oedd hanes y Goron, gafodd ei hennill gan y Parchedig R Gwylfa Roberts o Bort Dinorwig tan yn ddiweddar, hynny yw. Mae dynes sy'n enedigol o Flaenau Ffestiniog wedi prynu'r Goron ar wefan eBay am £250.

Ar hap

Mae Dr Melinda Price yn feddyg sy'n gweithio i fyddin Prydain yn yr Almaen.

Gweld y Goron ar hap wnaeth Dr Price, a sylwi bod y gwerthwr yn byw ym Mryste.

Does ganddi hi ddim clem sut cyrhaeddodd y Goron Dde-Orllewin Lloegr:

"Awst flwyddyn dw'ytha'... 'On i jysd yn edrych ar hen betha' ac yn mynd drwy'r tudalennau... Welais i rywbeth o dan 'tiara', a feddyliais i 'dim tiara 'di hon, Coron 'Steddfod 'di hi!'

"Pan nes i zoomio mewn, do'n i ddim yn coelio ei bod hi'n dweud 'Bardd Coronog Blaenau Ffestiniog 1898' arni hi".

Ddydd Iau, mae hi'n cyflwyno'r Goron i drigolion Blaenau mewn seremoni yn Siambr y Cyngor.

Meddai Dr Price, mae hi eisiau "i bawb gael ei gweld a'i gwerthfawrogi hi... 'Sa'n ddiddorol cael gwybod mwy gan y gymdeithas hanes am hanes y 'Steddfod ym Mlaena' - pwy wnaeth y Goron ac ati."