'Dydd y farn' i'r rhanbarthau
- Cyhoeddwyd

Mae Dydd y Farn wedi cyrraedd unwaith eto, gyda'r pedwar rhanbarth Cymreig yn wynebu ei gilydd mewn dwy gêm gefn-wrth-gefn yn Stadiwm y Mileniwm.
Bydd y Gweilch yn gobeithio sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol y Pro 12 yn erbyn y Dreigiau, a'r Scarlets yn brwydro i sicrhau eu lle yn nhymor cyntaf Cwpan y Pencampwyr drwy guro'r Gleision.
Mae gan y chwaraewyr ddigon o reswm i chwarae mor dda â phosib, gan fod rheolwr Cymru Warren Gatland wedi dweud y bydd o'n defnyddio'r gemau fel treial i benderfynu pwy fydd yn cael mynd ar y daith i Dde Affrica dros yr haf.
Hwn yw'r ail dro i Ddydd y Farn i gael ei gynnal yn dilyn yr un cyntaf y llynedd pan gurodd y Scarlets y Dreigiau, a'r Gweilch y Gleision.
Gleision v Scarlets: 2pm
Mae hanes yn awgrymu mai'r Scarlets yw'r ffefrynnau gan eu bod wedi dod i'r brig wyth gwaith yn olynol yn erbyn y Gleision ers y tro diwethaf i'r clwb o Gaerdydd guro ym mis Ebrill 2010.
Er bod gan y cochion siawns bach o gyrraedd y rowndiau olaf, mae gorffen yn chweched er mwyn chwarae yn y brif gystadleuaeth Ewropeaidd y flwyddyn nesaf yn darged mwy realistig.
Mae eu hyfforddwr Simon Easterby yn gobeithio na fydd y chwaraewyr yn colli ffocws oherwydd presenoldeb Gatland.
"Rwy'n hoffi meddwl fod y chwaraewyr yn chwarae i'w rhanbarth yn gyntaf gan dderbyn bod unrhyw beth fydd yn digwydd wedi hynny allan o'u dwylo."
Wedi tymor gwael, mae'r Gleision wedi gwneud yn well yn ddiweddar drwy guro Caeredin ac Ulster.
Dale McIntosh yw rheolwr y blaenwyr, a dywedodd: "Mi fydd yn sicr yn her ddydd Sul, ond mi gawn weld lle rydym ni ar ôl y gêm."
Dyw'r Gleision heb guro tair gêm yn olynol ers mis Tachwedd 2011, a dydyn nhw ond wedi curo un gêm allan o'u chwech diwethaf yn erbyn gwrthwynebwyr Cymreig.
Dreigiau v Gweilch: 4:45pm
Mae'r Gweilch yn mynd i'r gêm hon yn bumed yn nhabl y Pro 12, pedwar pwynt tu ôl i Glasgow.
Byddai gorffen yn bedwerydd yn rhoi lle iddyn nhw yn rownd y pedwar olaf, a chyfle i ennill y bencampwriaeth.
"Rydym yn parhau i gredu yn yr hyn rydym yn ei wneud ac mi allwn ni roi sioc i ambell dîm, ond mae'n rhaid i ni gyrraedd yna gyntaf" meddai'r hyfforddwr Steve Tandy.
"Mae'n wir ein bod braidd yn siomedig ein bod ni ddim yn uwch yn y tabl."
Er bod ei dîm yn ffefrynnau cyfforddus, mae Tandy'n gwybod bod y Dreigiau'n gallu bod yn fygythiad.
"Maen nhw'n dîm cryf ac wedi cael ambell i ganlyniad da," meddai.
"Ry'n ni'n falch ein bod ni ddim yn gorfod mynd i Rodney Parade."
Dyw'r Dreigiau heb ennill ers eu buddugoliaeth yn erbyn Glasgow ar y cae hwnnw fis Chwefror.
Mae hyfforddwr y Dreigiau Lyn Jones, oedd yn arfer rheoli'r Gweilch, yn cydnabod bod talcen caled yn wynebu ei glwb.
"Nhw sydd wedi bod y rhanbarth gorau ers sawl tymor," meddai.
"So fi'n credu bod hynny'n annheg ar y Gleision na'r Scarlets. Mae'r Gweilch chwech neu saith mlynedd o flaen Dreigiau Gwent o ran datblygiad.
"Mae'n gynnydd maen nhw wedi ei wneud ac rwy'n siŵr fod Steve yn siomedig i fod yn bumed."
Mi fydd y gemau'n cael eu dangos yn fyw ar S4C a bydd gohebiaeth yn cael ei ddarlledu ar Radio Cymru.
Straeon perthnasol
- 12 Ebrill 2014
- 11 Ebrill 2014
- 11 Ebrill 2014