Disgyblion yn cwyno am enw ysgol newydd ym Machynlleth
- Cyhoeddwyd

Mae rhai o ddisgyblion ysgol Machynlleth wedi cyhoeddi ffilm fechan ar wefan gymdeithasol sy'n dweud bod yr enw ar gyfer eu hysgol newydd yn "dwp".
Dros yr haf mi fydd Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi ac Ysgol Gynradd Machynlleth yn cau.
Ym mis Medi mi fydd ysgol newydd yn agor, un sy'n cynnig addysg i blant o bedwar oed i 18.
Ar Ebrill 7 cyhoeddodd Cyngor Sir Powys a'r llywodraethwyr cysgodol mai enw'r ysgol newydd fydd Ysgol Bro Hyddgen.
Ers hynny mae'r disgyblion wedi bod yn anhapus gyda'r dewis
Yn y clip ar wefan Facebook, mae nifer ohonyn nhw yn beirniadu'r newid, gan ddweud nad yw'r enw yn berthnasol i'r ysgol.
Iddyn nhw, Ysgol Dyffryn Dyfi fyddai'r enw gorau.
Yn ôl cadeirydd y llywodraethwyr cysgodol, Allan Wynne Jones, dewiswyd yr enw "Bro Hyddgen" fel teyrnged i Owain Glyndŵr.
Yn ôl Mr Jones roedd y panel a sefydlwyd i drafod yr enw newydd wedi derbyn nifer o awgrymiadau yn cyfeirio tuag at gysylltiad yr ardal gydag Owain Glyndŵr.
Roedd yn meddwl ei fod yn briodol i gyfeirio at y cysylltiad hwn.
Meddai Mr Jones: "Mae'n enw sy'n atgof o'n hetifeddiaeth ond sydd hefyd yn ein hannog i edrych ymlaen yn hyderus, yn greadigol ac yn eangfrydig."
Fe fydd disgyblion o ysgolion cynradd, Llanbrynmair, Carno a Glantwymyn yn mynd i'r ysgol pan maen nhw'n 11 oed.
Yn ôl Cyngor Sir Powys roedd y llywodraethwyr cysgodol yn meddwl ei bod hi'n bwysig i'r enw newydd adlewyrchu'r ardal gyfan er mwyn osgoi rhoi'r argraff fod Ysgol Bro Ddyfi yn cymryd yr ysgolion eraill i gyd drosodd.
Credir mai brwydr Mynydd Hyddgen ym mis Mehefin 1401 oedd buddugoliaeth gyntaf gwrthryfel Owain Glyndŵr.