Cynghorau yn gwneud elw o daliadau parcio
- Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau diweddaraf yn dangos bod Cynghorau Sir wedi gwneud elw o bron i £9m drwy daliadau meysydd parcio.
Mae Cyngor Caerdydd ar frig y tabl gan wneud £2.6m o broffid gydag Abertawe yn dilyn gan wneud £1.2m o broffid. Ond mae amryw o awdurdodau wedi gwneud colledion.
Daw'r ffigyrau o ddata sy'n cael ei roi gan yr awdurdodau lleol i'r Llywodraeth.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae cynghorau wedi cymryd drosodd cyfrifoldeb dros barcio ar y strydoedd oddi wrth yr heddlu,
Trwy gynlluniau parcio, megis taliadau meysydd parcio, trwyddedau i drigolion a dirwyon, mae'r ffigyrau'n dangos eu bod wedi codi dros £30m yn 2012/13.
Wedi iddynt dynnu'r costau rhedeg, mae'r broffid yn £8.7.
Yr Athro Stephen Glaister yw cyfarwyddwr sefydliad gyrwyr cerbydau yr RAC a nhw wnaeth wneud yr astudiaeth. Dywedodd o mai dim "gwneud arian" yw pwrpas rheolaeth parcio.
Meddai: "Mae'r rhan fwyaf o bobl yn deall bod yna angen i reoli parcio."
"Y cyfan sydd raid gwneud ydi cofio'r anhrefn yn Aberystwyth yn ôl yn 2011 pan dynnwyd y gwaharddiadau parcio o'r dref yn llwyr.
"Mae ymddiriedaeth rhwng gyrwyr a chynghorau wedi dirywio ac mae angen i'r awdurdodau fod yn dryloyw ynglŷn â pholisi parcio er mwyn adfer y berthynas yma."
Dywedodd Llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru nad oedd y cynghorau yn "gwneud arian" trwy fod yn gyfrifol am y meysydd parcio ond fod y pres yn cael ei wario ar y ffyrdd.
Meddai Llefarydd ar ran y Cymdeithas: "Oherwydd bod mesurau er mwyn arbed arian yn parhau, mae Cynghorau yn gorfod adolygu eu polisïau taliadau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2013